Morfa heli
Morfa heli yng Ngwlyptiroedd Casnewydd (C Harris)
Ychydig y tu hwnt i’r morglawdd mae ardaloedd o forfa heli, gwlyptiroedd arfordirol sy’n cael eu boddi a’u draenio gan ddŵr hallt a ddaw i mewn gyda’r llanw. Gelwir morfa heli hefyd yn ddôl heli Iwerydd.
Mae morfeydd heli yn ffurfio ar hyd morlinau cysgodol, fel aberoedd, pan fydd fflatiau llaid yn cyrraedd lefel y penllanw ar gyfartaledd a phan fydd planhigion sy'n gallu goddef halen (haloffytig), fel llyrlys a Chordwellt, yn ymsefydlu. Mae'r planhigion hyn yn dal mwy o waddodion ac yn helpu'r morfa heli i dyfu. Wrth i uchder y morfa heli godi, mae gwahanol blanhigion yn ymsefydlu.
Mae llystyfiant naturiol morfa heli yn dangos parthu clir yn dibynnu pa mor aml y mae planhigion yn cael eu gorchuddio gan y llanw. Ar y morfa heli isaf, Llyrlys, neu Llyrlys llysieuol sydd fwyaf amlwg. Yn uwch i fyny, ar dir sychach, mae planhigion fel Seren y Morfa a Lafant-y-Môr yn ffynnu. Mae'r planhigion hyn yn helpu i gynyddu faint o waddodion sy'n cael eu dyddodi ar y tir trwy arafu llif dŵr a dal gronynnau, darparu bwyd i bysgod ac arafu llif y dŵr yn ôl i'r môr.
Mae cyfradd tyfiant y morfa heli yn dibynnu ar faint o waddod sydd yn y dŵr, effaith tonnau a thopograffeg y draethlin; gall morfa heli fod yn eang ar lannau sydd ar lethr graddol, fel Gwastadeddau Gwent, neu’n gyfyngedig i ychydig fetrau yn unig ar lannau serth.
Wrth i'r morfa heli dyfu, mae deunydd organig wedi'i ddyddodi a llystyfiant marw yn cael eu claddu o dan haenau o waddod. Oherwydd nad oes llawer o ocsigen (amodau anocsig) yn y silt mân, mae'r pydredd yn araf iawn, felly dros amser mae'r nifer neu ddeunydd organig yn cynyddu. Mae morfeydd heli felly yn storfa garbon bwysig.
Nodweddir morfeydd heli gan rwydwaith o gilfachau a phantiau heli. Mae tyfiant planhigion mewn ardaloedd uchel yn crynhoi llif y dŵr i sianeli sydd yn y pen draw yn ffurfio cilfachau dwfn. Mae'r cilfachau yn sianelu’r llanw sy’n dod i mewn ar draws y morfa heli, gan sicrhau dosbarthiad gwastad o waddodion. Maent hefyd yn gweithredu i arafu'r dŵr sy'n dod i mewn trwy lif ffrithiannol ar hyd ochrau a gwaelod y gilfach. Wrth i'r llanw godi, mae'r cilfachau'n llenwi â dŵr sydd yn y diwedd yn arllwys dros y gors gyfagos.
Mae pantiau wedi'u hamgylchynu gan blanhigion yn dal dŵr sy'n anweddu'n raddol ar ôl penllanw. Mae'r rhain yn cyfateb i byllau glan môr.
Bioamrywiaeth
Clustog Fair (C Harris)
Er eu bod yn aml yn cael eu hystyried yn gynefinoedd sy’n brin o rywogaethau, gall morfeydd heli gynnal amrywiaeth o blanhigion arbenigol sy’n hoff o halen (haloffytig) ac ystod amrywiol o infertebratau, algâu, ffyngau, pysgod, adar, amffibiaid a mamaliaid bach. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o infertebratau sydd wedi addasu i fwydo ar blanhigion morfa heli, fel Gwenynen durio seren y morfa (Colletes halophilus) a llyslau'r morfa (Sipha littoralis), sy'n bwydo ar wellt y morfa. Ym Mhrydain, mae dros 290 o rywogaethau o infertebratau daearol yn byw ar forfa heli, ac ni cheir 148 ohonynt mewn unrhyw gynefinoedd eraill.
Mae morfeydd heli yn arbennig o bwysig ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau o adar sy'n defnyddio'r gors ar gyfer bridio, clwydo, bwydo a bwrw plu, gan gynnwys gwyddau a hwyaid sy’n pori, Ehedydd, Bras y Cyrs, a’r Cornchwiglen. Mae tua 50% o boblogaeth fridio Pibydd Coesgoch y DU yn defnyddio morfeydd heli. Mae'n well gan y pibydd coesgoch, ynghyd â’r Gïach cyffredin, fwydo yn y gors gymharol gysgodol hefyd, yn hytrach nag allan ar y fflatiau llaid agored sy'n cael eu ffafrio gan y rhan fwyaf o rydyddion.
Er ei fod yn gynefin pwysig yn ei rinwedd ei hun, mae morfa heli (a fflatiau llaid) yn rhan bwysig o gymhlethdod o gynefinoedd sy’n ffurfio ecosystem aberoedd, un o’r ecosystemau mwyaf cynhyrchiol ar y ddaear.
Pibydd Coesgoch (Andy Hay, RSPB-images.com)
Llinell amddiffyn gyntaf
Mae morfeydd heli yn ffurfio parth fel byffer rhwng y môr a thir sych, gan amsugno effaith tonnau ac amddiffyn yr arfordir rhag erydiad.
Mae morgloddiau yn aml yn cael eu hadeiladu i arbed y llanw uchaf gyrraedd tir sydd wedi’i adfer. Mewn lleoliadau morfeydd heli, mae'r waliau hyn yn aml yn gloddiau pridd syml. Lle mae’r morfa heli wedi diflannu, mae angen atgyfnerthu morgloddiau yn gadarn gyda blociau cerrig anferth a choncrit. Gall amddiffyn neu adfer morfeydd heli felly leihau cost amddiffynfeydd morol yn sylweddol.
Gall morfeydd heli hefyd helpu i hidlo llygryddion o ddŵr, gan gynnwys chwynladdwyr, plaladdwyr, organoclorinau, a metelau trwm. Mae llygryddion yn cydio yng ngronynnau gwaddod sy'n setlo ar y morfa heli ac yna’n cael eu claddu, ac i bob pwrpas yn cael eu cloi ymaith ac yn lleihau eu heffeithiau amgylcheddol niweidiol.
Carbon Glas
Mae ‘carbon glas’ yn cyfeirio at y carbon sy’n cael ei storio gan gynefinoedd morol. Ystyrir morfa heli yn un o’r cynefinoedd carbon glas pwysicaf oherwydd ei allu i ddal a storio carbon yn ei lystyfiant, ei wreiddiau a’i risomau mewn cyfnod cymharol fyr.
Wrth iddynt dyfu, mae planhigion morfeydd heli yn defnyddio carbon deuocsid (CO2) atmosfferig a ffotosynthesis i gynhyrchu carbon organig. Pan fyddant yn marw, mae'r planhigion yn cael eu claddu mewn haenau o waddod. Oherwydd bod y gwaddod yn aml yn llawn dŵr ac yn isel mewn ocsigen, mae'r deunydd planhigion yn pydru'n araf iawn, ac i bob pwrpas yn cloi ymaith carbon am ganrifoedd.
Gall morfa heli naturiol storio tua 4 tunnell o garbon fesul hectar y flwyddyn. Mae morfa heli wedi'i hadfer hyd yn oed yn fwy effeithiol a gall storio hyd at 15 tunnell o garbon fesul hectar y flwyddyn, yn debygol oherwydd croniad cyflym o waddod.
Gall gwarchod, adfer a chreu morfeydd heli chwarae rhan fawr mewn amsugno a storio carbon atmosfferig a lleihau effaith newid hinsawdd.
Bygythiadau i forfeydd heli
Ers y canol oesoedd, mae llawer o forfeydd heli wedi cael eu hadennill ar gyfer ffermio. Yn wreiddiol, cafodd y tir caeëdig ei drawsnewid yn gors bori, ond ers y 1940au mae ardaloedd eang wedi'u gwella ar gyfer amaeth; eu draenio, ail-hadu a'u pori'n ddwys, neu eu trawsnewid i dyfu cnydau.
Mae llawer o forfeydd heli, gan gynnwys ardaloedd o Wastadeddau Gwent, yn dal i gael eu pori gan dda byw, gan gynnwys defaid a gwartheg. Gall pori ysgafn (2-3 dafad neu 1 fuwch fesul hectar) sy’n debyg i bori naturiol arwain at fanteision ar gyfer bioamrywiaeth.
I’r gwrthwyneb, gall pori’n sylweddol leihau’r amrywiaeth o blanhigion ac infertebratau, ac arwain at sathru ar nythod adar, fel y Cornchwiglen. Gall symud anifeiliaid sy’n pori o gors a oedd yn cael ei bori’n flaenorol arwain at un neu ddau o rywogaethau planhigion yn trechu, ac arbed rhywogaethau planhigion eraill rhag ail-gytrefu.
Llyrlys cyffredin (C Harris)
A wyddoch chi?
Mae corsydd llanw yn gorchuddio tua 140 miliwn hectar o arwyneb y ddaear, ond yn cael eu colli ar gyfradd o 1-2% y flwyddyn.Beth welwch chi ar forfa heli
Wedi gweld rhywbeth diddorol?
Mae'n bwysig cofnodi'r bywyd gwyllt a welsoch gyda Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, sy'n storio, rheoli a rhannu cofnodion bywyd gwyllt o bob cwr o'r rhanbarth.
Cliciwch isod i ddarganfod sut i gofnodi.