Geirfa Unigryw y ‘Levels Lingo’
Mae gan y tirlun ei iaith neu eirfa leol hynod ei hun sydd wedi dwyn y teitl ‘Levels Lingo’. Fe welwn gipolwg trwy’r ‘lingo’ yma ar darddiad y tirlun dros 1800 o flynyddoedd yn ôl a sut mae'n parhau i gael ei reoli heddiw.
Wrth baratoi ar gyfer prosiect y Lefelau Byw, creodd yr Hanesydd a'r Archeolegydd Rick Turner 'Levels Lingo', sef rhestr o eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir ar Wastadeddau Gwent yn hanesyddol a hyd heddiw. Mae geirfa unigryw hwn bellach yn cwmpasu Gwastadeddau Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw hefyd, ac yn ddiweddarach yn 2021, bydd rhifyn llawer mwy estynedig ar gael ar-lein. Nid yw pob term yn unigryw i'r ardal, ond mae pob un yn rhan annatod o dreftadaeth ddiwylliannol Gwastadeddau Aber Afon Hafren.
Dyma rhai enghreifftiau o'r geiriadur ‘gwlyb’ unigryw yma!
Brinker / Brinciwr
Person sy'n berchen ar dir ar un ochr i rewyn, clawdd neu gilfach ac sy'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw - sy'n deillio o "Brinker", person sy'n byw ar yr ymylon neu'r ffin.
Gout / Gowt
System fflap llanw syml yw gowt sy'n debyg i'r hyn a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae dŵr croyw o'r ffosydd a'r rhewynau yn mynd trwy'r morglawdd ar lanw isel trwy fflap ac allan i'r môr. Pan ddaw'r llanw i mewn, mae dŵr y môr yn gwthio yn erbyn y fflap a'i gau. Mae'r dŵr croyw ar ochr arall y clawdd yn cronni dros dro yn y rhewynau nes bod y llanw yn troi ac yn mynd allan. Yna mae pwysau'r dŵr croyw yn gwthio'r fflap yn agored eto ac yn draenio allan i'r môr tan y llanw uchel nesaf.
Daw'r gair "Gout" o'r gair Hen Saesneg "gota", a "gote" o Saesneg Canol, sy'n golygu dyfrffos, sianel, draen neu nant. Gwelir yr un gair yn Goyt, Sir Gaer a Gut mewn gwahanol fannau ym Mhrydain.
Grips
Ffos neu cwys fach neu agored ar gyfer cario’r dŵr o’r neilltu. System o gwteri draenio arwyneb bas lle mae patrwm hirsgwar o rychau bas yn cael eu bwrw, ac yn arwain y dŵr oddi ar wyneb y caeau i'r pentir ac felly i'r ffos maes sydd gyferbyn.
Noggle, noghole a noggor
Peg pren mewn planciau yng ngwaelod cilfach dros gowt a ellir ei godi i ganiatáu dŵr i mewn i system rhewyn lleol. Dim ond ar Monks' Ditch y cofnodwyd y strwythurau hyn.
Pill / Pil neu Pwl
Efallai bod ‘pill’ wedi deillio o’r gair Cymraeg 'pwll'. Yng Ngwastadeddau Gwent, yn wreiddiol golygir holl gwrs y prif afonydd ond mae bellach yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio llanw’r gilfach islaw gowt.
Putcher
Basged siâp corn neu dwmffat wedi ei greu yn draddodiadol o wiail collen a helyg wedi ei blethu ar gyfer dal eogiaid a llyswennod yn Afon Hafren ac isafonydd.
Reaping and Scouring / Crymanu a Sgwrio
Mae’r dywediad yma yn cyfeirio at y tasgau cynnal a chadw sy’n digwydd dwywaith y flwyddyn, sy’n cynnwys torri lawr y llystyfiant ar lannau’r afonydd a gwared llystyfiant a thameidiau o lanast o’r sianeli.
Rhewynau / Reens
Rhewyn yw'r gair lleol ar gyfer y ffosydd gwlyb sy'n croesi'r tirlun yn gris-groes fel gwythiennau. Dyma brif nodwedd y system ddraenio cymhleth a gloddiwyd dros ganrifoedd, a oedd yn cynnwys amrywiaeth cynnil o rannau; o bantiau cyfochrog mawn caeau i rychau arwyneb bas o'r enw 'grips'). Ar y Gwastadeddau, roedd cyfrifoldeb y cynnal a chadw blynyddol yn disgyn ar y rhai oedd ar hyd ei lethrau, neu wynebu Llys y Carthffosydd.
Neidio Rhewyn / Reen vaulting
Unwaith yn gamp leol boblogaidd gan bobl yng Ngwastadeddau Gwent.
Stanks
Pyllau yw ‘stanks’ ond yng Ngwastadeddau Gwent mae'r gair wedi dod i olygu argae dros dro i ddal y dŵr yn ôl. Mae'r enw lleol ar gyfer iâr ddŵr 'stankhen' yn deillio o 'stank'.
I weld mwy o enghreifftiau o’r eirfa unigryw hon cliciwch yma.
Blas o'r Lefelau
Mae bragdy micro Anglo-Oregon o Wastadeddau Gwent wedi cynhyrchu triawd o gwrw, sydd wedi'u hysbrydoli gan y 'Levels Lingo' hanesyddol. Gallwch archebu eich poteli o 'Stank hen', 'Brinker' a 'Putcher' gan Anglo-Oregon.