Y Bartneriaeth
Aelodau Bwrdd Lefelau Byw yn dathlu cyflwyno'r cais yn llwyddiannus i'r Dreftadaeth Loteri
Mae Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw yn dod â rhanddeiliaid o'r un anian ynghyd i gydweithio i adennill, cyfoethogi a dathlu'r Gwastadeddau Gwent hanesyddol.
Daeth y Bartneriaeth ynghyd yn 2014, a gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, mae wedi buddsoddi £4 miliwn hyd yn hyn yng Ngwastadeddau Gwent.
Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys RSPB Cymru (cynhaliwr), Ymddiriedolaeth Natur Gwent (YNG), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Dinas Casnewydd (CDCas), Cyngor Sir Fynwy (CSF), Cyngor Dinas Caerdydd (CDCdydd), Archifau Gwent (AG), Amgueddfa Stori Caerdydd, Sustrans, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Cadwraeth y Cacwn a BugLife Cymru.
Mae Lefelau Byw yn cwmpasu llawer o agweddau i gyfoethogi'r tirlun; o adfer treftadaeth naturiol, gwella profiadau ymwelwyr a gweithio gyda chymunedau, i arddangos y dreftadaeth anhygoel sydd gan y tirlun hwn i'w gynnig.
Yn ogystal â'n partneriaid ffurfiol, rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol i ddelio â materion sy'n bwysig iddyn nhw, fel tipio anghyfreithlon a gostyngiadau mewn incwm ffermydd. Mae deall materion lleol wedi ein helpu i ddylunio cynllun a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl leol. Mae llawer o bartneriaid eraill o'r gymuned gyfagos wedi bod yn ymwneud yn anffurfiol â'r cynllun yn ystod y cyfnod yma.
