Sut i gofnodi’r hyn a welsoch

Beth ddylech chi gofnodi?

Dylai cofnod biolegol sylfaenol gynnwys y pedwar pwynt canlynol:

  • Pwy (enw a manylion cyswllt y person a’i gwelodd)

  • Beth (beth a welwyd - defnyddiwch yr enw gwyddonol os yn bosibl)

  • Lle (lle y gwelwyd - bod mor fanwl â phosib, mae cyfeirnod grid neu ledred/hydred yn ddelfrydol)

  • Pryd (y dyddiad y gwelwyd)

Mae gwybodaeth ychwanegol megis y niferoedd a welwyd, cyfnod y cylch bywyd, dull samplu a chynefin yn ychwanegu gwerth at gofnod biolegol.

 

Defnyddio SEWBReCORD

SEWBReCORD yw Cronfa Ddata Cofnodi Ar-lein Canolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru. Mae'n storio, rheoli a rhannu cofnodion bywyd gwyllt o bob cwr o Dde-ddwyrain Cymru.

  • Ewch i www.sewbrecord.org.uk/casualrecords i gofnodi heb orfod creu cyfrif.

  • I greu cyfrif, Ewch i www.sewbrecord.org.uk a chreu cyfrif newydd.

  • Cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion, gan gynnwys cyfeiriad e-bost dilys fel bo modd cysylltu â chi os oes cwestiynau yn codi am yr hyn a welsoch.

  • Ar ôl mewngofnodi, cewch eich arwain i'r dudalen gartref, sy'n dangos cofnodion diweddar. O'r bar dewislenni ar dop y dudalen, dewiswch "Record" ac yna dewis un o'r tri opsiwn, yn dibynnu ar y nifer o gofnodion yr hoffech eu cyflwyno. I greu un cofnod yn unig, dewiswch “Enter a Casual Record”.

  • Cwblhewch y ffurflen gofnodi, gan lenwi cymaint ag sy'n bosibl. Nodwch, mae'r meysydd sydd wedi'u marcio â seren yn orfodol. Mae'r ffurflen hefyd yn cynnwys map y gellir ei ddefnyddio i gofnodi lleoliad yr hyn a welsoch chi.

Ap Cofnodi

Mae yna nifer o apiau cofnodi am ddim ar gyfer ffonau symudol, gan gynnwys rhai cyffredinol fel iRecord, a rhai arbenigol ar gyfer cofnodi grwpiau penodol, fel gloÿnnod byw.

Mae LERC Cymru (Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru) wedi datblygu eu ap cofnodi eu hunain, a gellir ei lawrlwytho o Apple Store neu Google Play. Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth am Ap LERC Cymru: www.lercwales.org.uk/app.php

Cofnodi ar bapur

Gellir cyflwyno cofnodion trwy'r post hefyd gan ddefnyddio Ffurflen Cofnodi yr hyn a Welwyd. Cliciwch y ddolen isod i lawrlwytho ffurflen:

Ffurflen Cofnodi yr hyn a Welwyd