Y Morlun
Hyd yn oed o bell mae'r Gwastadeddau'n fesmerig, yn hudolus o dan awyr aberol eang. Maent yn newid siâp gyda'r tywydd wrth i chi gerdded trwyddyn nhw, gan fenthyca golau môr hudolus Aber Afon Hafren pan gaiff ei daro gan yr haul, neu'n troi mor dywyll a dramatig â llanw storm.
Cyfieithiad o ddyfyniad o The Sum of a place, Julian Hoffman, 2015
Y tu hwnt i'r morglawdd, mae'r gwastadeddau mwd a’r morfeydd heli eang a dŵr agored Aber Afon Hafren yn hanfodol i leoliad a chymeriad Gwastadeddau Gwent.
Mae cyfuno amrediad enfawr llanw’r aber â’i geometreg arfordirol yn adeiladu'r tonnau llanw mwyaf yn y DU ymhellach i fyny'r aber. Mae'n ymfalchïo yn yr ail amrediad llanw uchaf yn y byd, rhwng 12 a 14m - yr amrediad llanw uchaf i’w darganfod yn Bay of Fundy yng Nghanada.
Mae’r morlun, gyda’i awyr eang yn ddramatig a deinamig, goleuni a golygfeydd yn amgylchynu, gan gynnwys golygfeydd o'r ddwy bont wen anferth sy'n lledaenu dros lanw llaid yr aber. Yn ystod llanw isel, mae ehanger y morfa heli gwyntog a’r mwd sy’n dod i’r golwg yn cael ei ddefnyddio gan ddegau ar filoedd o adar y glannau ac adar dŵr sy’n mudo o Ogledd Ewrop bob gaeaf, yn clwydo a bwydo ar wastadeddau llaid a morfa heli’r aber, ac yn tarfu ar y distawrwydd gyda’u clebran croch.
Mae gan Aber Afon Hafren yr ystod llanw ail uchaf yn y byd, rhwng 12 a 14m.
Mae tystiolaeth o’r berthynas hir sefydlog rhwng cymunedau lleol ar Wastadeddau Gwent a'r aber mewn mannau glanio bach traddodiadol ar gyfer masnach ar draws y sianel, a oedd yn gwasanaethu cymunedau fel Llanbedr Gwynllŵg, Allteuryn, Tredelerch ac Y Redwig, ac maent yn gysylltiedig â darganfyddiadau llongau canoloesol cynnar.
Datblygodd pwysigrwydd yr aber ar gyfer masnach forwrol o gyfnod canoloesol ymlaen, yn enwedig yn dilyn y Chwyldro Diwydiannol a drawsnewidiodd Caerdydd yn un o'r porthladdoedd glo mwyaf yn y byd (roedd y glo a ddaeth o'r cymoedd yn cyflenwi llyngesau lluoedd môr).
Roedd mewnforio ac allforio nwyddau a deunyddiau crai ar hyd yr aber yn cyfrannu tuag at ehangder cyfoeth Caerdydd, Casnewydd, Bryste a Chaerloyw. Mae’r patrwm o longddrylliadau yn darlunio’r amodau morwriaeth beryglus a rôl yr aber fel llwybr traffig morwrol (gyda cholledion sy'n gysylltiedig â mynediad a pheryglon Caerdydd fel yr Aldridge Shoal).
Mae'r moroedd hefyd yn llawn olion daearegol o’r gorffennol - mae helaeth o ffosilau'r plesiosaurs a'r pryfed a oedd yn poblogi'r tirlun pan drawsnewidiodd yr ardal o anialwch sych a phoeth i fôr trofannol cynnes tua 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl i’w gweld yn y clogwyni coch sy'n codi o'r morfeydd heli yn Garreg Ddu.
Pysgotwyr Rhwydi Gafl yn Garreg Ddu o bentrefi lleol Sudbrook, Porthsgiwed a Chil-y-coed, yw'r pysgotwyr olaf Rhwydi Gafl yng Nghymru. Mae'r traddodiad o bysgota Rhwydi Gafl yn Garreg Ddu wedi cael ei basio trwy nifer o genedlaethau ar draws canrifoedd ac erbyn hyn mae'r pysgotwyr bellach yn hyrwyddo'r bysgodfa fel pysgodfa dreftadaeth ac atyniad twristiaeth yn eu nod i gadw hanes a thraddodiad pysgota rhwydi gafl yn fyw ar gyfer y mwynhad y cenedlaethau i ddod.
Pysgotwr rhwydi gafl (Nanette Hepburn)
Partneriaeth Môr Hafren
Wedi'i sefydlu yn 1995, mae Partneriaeth Môr Hafren yn fenter annibynnol, anstatudol ledled yr aber, dan arweiniad awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol, a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd.
Am ragor o wybodaeth am Aber Afon Hafren, ewch i wefan Partneriaeth Môr Hafren.