Tu Hwnt i’r Morglawdd
Canllawiau i archwilio'r parth rhynglanwol ar hyd Gwastadeddau Gwent
Mae Tu Hwnt i’r Morglawdd yn brosiect gwyddoniaeth dinasyddion sy'n cyfuno archwilio glan y môr â chofnodi gwyddonol.
Mae tua 3 miliwn o bobl yn byw ar neu gerllaw Aber Afon Hafren. Ond, er bod llawer ohonom yn gyfarwydd â chynefinoedd tirol, tebyg i goetiroedd, dolydd, gwrychoedd a phyllau, a’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yno, yn gyffredinol nid yw’r tir y tu hwnt i’r morglawdd yn cael ei gydnabod na’i archwilio cystal. Mae llawer ohonom wedi colli cysylltiad â thirlun yr aber a’i drigolion, wrth i weithgareddau traddodiadol lleol leihau, fel pysgota, adeiladu cychod, teithiau fferi a mordwyaeth.
Mae tirlun eang yr aber yn cadw ymdeimlad o anialwch a phellenigrwydd, er gwaethaf trefi a dinasoedd mawr cyfagos, ac mae’n un o ryfeddodau naturiol mawr y DU.
Ddwywaith bob dydd, pan mae’r llanw ar drai, mae dyfroedd lleidiog Aber Afon Hafren yn draenio i ddatgelu tua 100km sgwâr o dir rhynglanwol, mosaig cymhleth o forfeydd heli, fflatiau llaid, traethellau, a blaendraeth creigiog.
Ar draws y morfa heli, Corsydd Llanbedr Gwynllŵg.
Mae'r cynefinoedd hyn yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, ac ni cheir rhai ohonynt yn unman arall. Mae llawer wedi'u haddasu'n arbennig i fyw yn y parth rhynglanwol garw, gyda'i dymheredd a'i halwynedd cyfnewidiol eang. Gyda'i gilydd maent yn creu ecosystem mor gyfoethog ac amrywiol ag unrhyw fforest law drofannol.
Weithiau’n le anodd neu’n beryglus i fynd ato, ac sy’n dod i’r golwg am gyfnod byr yn unig bob dydd, gall fod yn anodd dod i adnabod y parth rhynglanwol, sef y tir a ddatgelir rhwng llanw a thrai, ond mae’r un mor amrywiol a hynod ddiddorol ag unrhyw gynefin daearol.
Nod y prosiect hwn yw codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o barth rhynglanwol eang Aber Afon Hafren sy’n ffinio Gwastadeddau Gwent, a helpu i ailgynnau cysylltiadau rhwng tir a môr.
Felly gwisgwch eich esgidiau addas, cydiwch mewn cot, ac ymunwch â ni wrth i ni grwydro'r tir y tu hwnt i'r morglawdd.
Gwyliwch gyflwyniad Tu Hwnt i’r Morglawdd gan Ed Drewitt:
Ariennir Tu Hwnt i’r Morglawdd gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru: Cynllun Capasiti Morol ac Arfordirol, a weinyddir gan CGGC.