Fflatiau llaid a fflatiau tywod
Mae fflatiau llaid a fflatiau tywod rhynglanwol yn cael eu boddi ar benllanw a’u datguddio pan mae’r llanw ar drai.
Maent yn ffurfio mewn ardaloedd arfordirol cysgodol, fel aberoedd a chilfachau, ond hefyd ar hyd rhannau o arfordir agored gyda thraethlin ar lethr graddol, pan fydd silt mân a gwaddodion clai yn setlo.
Mae strwythur ffisegol y fflatiau rhynglanwol yn amrywio o draethau symudol tywod bras ar arfordiroedd agored i donnau, i fflatiau llaid gwaddod mân sefydlog mewn aberoedd a chilfachau morol eraill.
Gellir rhannu’r math hwn o gynefin yn dri chategori cyffredinol – tywod glân, tywod lleidiog, a mwd – er yn ymarferol mae graddiant parhaus rhyngddynt. O fewn yr ystod hon, mae cymunedau planhigion ac anifeiliaid yn amrywio yn ôl y math o waddod, ei sefydlogrwydd, a halwynedd y dŵr.
Mae fflatiau llaid helaeth o flaen glannau Cymru a Bae Bridgwater, a glannau mawr o dywod glân yn rhannau mwy canolig yr aber ym Mastiroedd Canol a Bastiroedd Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn creu ardal o tua 20,300 hectar – y 4ydd ardal fwyaf mewn aber yn y DU. Mae’n cynrychioli tua 7% o gyfanswm darpariaeth y DU o fflatiau llaid a fflatiau tywod rhynglanwol.
Gall wyneb fflatiau llaid ymddangos yn ddiffrwyth, heb lystyfiant. Fodd bynnag, mae matiau microalgâu yn gyffredin, sy'n helpu i glymu'r gwaddodion at ei gilydd.
Maent hefyd yn gyfoethog mewn deunydd organig, sy'n eu gwneud yn gynefin delfrydol i lu o infertebratau sy'n bwydo drwy hidlo ac sy’n chwilota am fwyd. Mae'r bio-màs uchel o infertebratau yn fflatiau llaid Aber Afon Hafren yn darparu ffynhonnell fwyd pwysig ar gyfer ystod amrywiol a niferoedd mawr o bysgod ac ysglyfaethwyr dyfnforol (byw ar waelod y dŵr).
Mae fflatiau llaid hefyd yn darparu man bwydo, clwydo a gorffwys gwerthfawr i amrywiaeth eang o rydyddion ac adar dŵr. Wrth i’r trai amlygu’r fflatiau llaid, daw miloedd o adar, fel piod y môr, y gylfinir, a phibyddion y mawn, i fwydo.
Mae tua 80,000 o adar gwlyptir sy'n gaeafu yn defnyddio ei gorsydd a'i fflatiau llaid bob blwyddyn. Mae hyn yn gwneud Aber Afon Hafren yn un o'r gwlyptiroedd gorau yn y DU ac yn rhyngwladol bwysig.
Wrth i fwy o waddod gael ei ddyddodi ar y fflatiau llaid, mae ei uchder yn codi ac mae'r amser a dreulir dan ddŵr yn lleihau. Y tu hwnt i bwynt tyngedfennol, datgelir y mwd yn ddigon hir i blanhigion arloesol sy'n gallu goddef halen ymsefydlu, gan arwain at greu morfa heli.
Er y gallant fodoli heb ei gilydd, mae fflatiau llaid a morfeydd heli yn ddibynnol ar ei gilydd. Lle mae fflatiau llaid yn bodoli heb forfeydd heli maent yn fwy agored i erydiad trwy effaith tonnau, yn enwedig ar y lefel uchaf lle mae tonnau'n cael eu hadlewyrchu gan glogwyni naturiol neu amddiffynfeydd caled, megis morgloddiau. Yn yr un modd, lle mae morfeydd heli yn bodoli heb fflatiau llaid, mae'r ymyl isaf yn fwy agored i erydiad.
A wyddoch chi?
Mae gan y DU tua 270,000ha o fflatiau llaid a fflatiau tywod rhynglanwol o amgylch ei harfordir, 15% o’r cyfanswm ar gyfer gogledd-orllewin Ewrop.Beth welwch chi ar fflatiau llaid
Wedi gweld rhywbeth diddorol?
Mae'n bwysig cofnodi'r bywyd gwyllt a welsoch gyda Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, sy'n storio, rheoli a rhannu cofnodion bywyd gwyllt o bob cwr o'r rhanbarth.
Cliciwch isod i ddarganfod sut i gofnodi.