Aber Afon Hafren
Aber Afon Hafren yw ceg Afon Hafren wrth iddi lifo i'r de-orllewin i fôr agored Môr Hafren. Yn ogystal ag Afon Hafren, mae tair prif afon arall yn arllwys i'r aber: Gwy, Avon ac Wysg.
Mae hyd yr aber yn ymestyn i fyny'r afon o derfyn eithaf llanw'r afon yn Nociau Caerloyw i linell sy'n rhedeg o Drwyn Larnog yn Ne Cymru i Sand Point yng Ngogledd Gwlad yr Haf. Nodir terfyn eithaf allanol yr aber gan ddwy ynys greigiog, Ynys Echni ac Ynys Ronech.
Ffurfiodd yr aber dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf wrth i lefel y môr godi ar ôl i’r Oes yr Iâ diwethaf foddi dyffryn isel. Dros amser, roedd yr afonydd o oedd yn arllwys i'r aber wedi dyddodi llawer iawn o fwd, tywod a graean gan greu gwely'r môr amrywiol o fflatiau a bariau, ynghyd â gwlyptiroedd enfawr o amgylch yr ymylon. Yn sgil adennill y gwlyptiroedd hyn, gydag argloddiau a ffosydd o'r ganrif 1af OC ymlaen, cafodd Gwastadeddau Gwent (a Gwlad yr Haf) eu creu.
Mae siâp côn yr aber yn ei wneud yn unigryw ym Mhrydain ac yn brin iawn ledled y byd. Mae'n creu'r amrediad llanw uchaf yn Ewrop ac un o'r uchaf yn y byd, sef dros 14 metr. Yn ystod llanw ar drai, mae'n datgelu ardal rynglanwol enfawr o forfa heli, fflatiau llaid a thraethellau.
Delwedd wedi'i thorri mewn pren o lifogydd 1607
Mae siâp yr aber, a'i leoliad de-orllewinol yn ei wneud yn agored iawn i stormydd ysgubol o Gefnfor yr Iwerydd. Gall ymchwydd storm, a achosir gan gyfuniad o wyntoedd cryfion a gwasgedd atmosfferig isel, ychwanegu 1-2 metr i’r llanw. Mae’n debyg bod y Llifogydd Mawr enwog o 1607 a boddodd y Gwastadeddau, ac sy’n cael ei goffáu mewn eglwysi ledled yr ardal, wedi’u hachosi gan orllanw uchel ynghyd ag ymchwydd storm a drechwyd amddiffynfeydd morol.
Mae'r aber wedi bod yn hanfodol bwysig ar gyfer masnach ryngwladol a mordwyaeth forol ers canrifoedd lawer. O’r cyfnod canoloesol ymlaen, datblygodd porthladdoedd pwysig ym Mryste, Casnewydd a Chaerdydd, ynghyd â llawer o fannau glanio llai ar wasgar ar hyd yr arfordir, gan gynnwys Llanbedr Gwynllŵg, Allteuryn a’r Redwig. Mae pwysigrwydd yr aber, a’r amodau anodd sy’n bodoli, yn dyst i’r llu o longddrylliadau o bob cyfnod sy’n gorwedd ar wely’r môr.
Mae Aber Afon Hafren yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei gynefinoedd pwysig. Mae llawer o'r aber o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae rhannau helaeth o'r parth rhynglanwol wedi'u dynodi'n Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA), safle Ramsar a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Llyngyr y traeth, hefyd Abwydyn y tywod (jtdai, iNaturalist (CC BY-NC))
Gall amodau yn yr aber fod yn gyfnewidiol iawn, gyda halwynedd cyfnewidiol, cerhyntau cryf a gwaddodion symudol eithriadol. Mae presenoldeb lefelau uchel o ddeunydd organig yn y mwd yn darparu bwyd i greaduriaid sy'n tyllu, fel llyngyr y traeth. Fodd bynnag, mae deunydd organig hefyd yn cael gwared ar ocsigen wrth iddo gael ei dreulio gan facteria, gan gyfyngu bywyd i lefelau’r wyneb. Gall gronynnau silt mân hefyd fod yn broblem i anifeiliaid sydd â dulliau bwydo neu anadlu bregus. Mae hyn yn cyfyngu ar ystod y rhywogaethau sy'n byw ar waelod y dŵr (dyfnforol / benthig). Serch hynny, mae'r rhai a all oroesi yn yr amgylchedd garw hwn yn tueddu o fodoli mewn niferoedd enfawr.
Mae'r infertebratau hyn yn cynnal poblogaethau rhyngwladol pwysig o rydyddion, gan gynnwys y Gylfinir (Numenius arquata), Pibydd Coesgoch (Tringa totanus), Cwtiad Torchog (Charadrius hiaticula) a'r Cwtiad Llwyd (Pluvialis squatarola). Mae'r aber hefyd yn cynnal tua 10% o boblogaeth gaeafu Pibydd y Mawn (Calidris alpina) ym Mhrydain a dyma'r tir gaeafu pwysicaf un ar gyfer y rhywogaeth hon.
Mae saith rhywogaeth o bysgod mudol yn symud trwy'r aber rhwng y môr a'r afonydd, gan gynnwys Eogiaid (Salmo salar), Brithyll y môr (Salmo trutta), Llysywen (Anguilla Anguilla), Llysywen bendoll y môr (Petromyzon marinus), Llysywen bendoll yr afon (Lampetra fluviatilis), Gwangen (Alosa fallax) a Herlyn (Alosa alosa).
Pibydd Coesgoch (Andy Hay, RSPB-images.com)