Llanw

Mae llanwau yn cael eu creu gan dyniad disgyrchiant y lleuad a'r haul, a chylchdro'r ddaear. Wrth i'r lleuad cylchdroi’r ddaear, mae'r llanw'n symud o gwmpas y ddaear fel ymchwydd yn y cefnfor.

Mae penllanwau yn digwydd wrth i'r dŵr symud ymlaen i'w fan pellaf ar y draethlin. Ac mae llanw ar drai yn digwydd pan fydd yn cilio i'w fan bellaf. Gelwir y gwahaniaeth rhwng penllanw a llanw ar drai yn amrediad llanw.

Mae amrediad y llanw yn amrywio dros amser wrth i'r ddaear, y lleuad a'r haul symud yn gymharol â'i gilydd. Mae'r amrediad llanw mwyaf yn digwydd pan fo'r lleuad a'r haul yn cyfunioni â'r ddaear ac mae eu tyniad disgyrchol yn cyfuno. Gelwir y rhain yn ‘gorllanw’ neu ‘llanw mawr’ ac maent yn digwydd ddwywaith y mis pan fydd lleuad newydd neu leuad lawn.

Pan fydd y lleuad yn wynebu'r ddaear ar ongl sgwâr i'r haul, y grymoedd disgyrchiant sydd wanaf. Mae hyn yn creu’r amrediad llanw lleiaf, a elwir yn ‘lanw bach’. Mae llanw bach yn digwydd ddwywaith y mis pan fydd y chwarter lleuad cyntaf a'r chwarter lleuad olaf yn ymddangos.

Mae’r rhan fwyaf o draethlinau yn gweld dau benllanw a dau lanw ar drai o fewn cyfnod o bedair awr ar hugain, a rhai ardaloedd yn profi dim ond un o bob un.

Mae nodweddion ffisegol arfordir, fel traeth tywodlyd llydan neu draeth bychan creigiog, ynghyd â dyfnder y dŵr ychydig oddi ar y lan, yn effeithio ar uchder y llanw.

Mae siâp côn Aber Afon Hafren yn unigryw yn y DU ac yn creu rhai o’r llanwau uchaf yn y byd; y llanw uchaf yn Aber Afon Hafren yw 14.7m (48tr), ond gall ymchwyddiadau storm, a achosir gan wyntoedd cryfion a gwasgedd atmosfferig isel, ychwanegu 1-2m. Achoswyd Llifogydd Mawr 1607 gan orllanw uchel yn cyd-ddigwydd yr un amser â storm gwasgedd isel.