Archaeoleg

Grwp Archaeoleg, Glanfa Fawr Llanbedr Gwynllŵg

Grŵp Archaeoleg, Glanfa Fawr Llanbedr Gwynllŵg

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae amryw o safleoedd archeolegol ysblennydd wedi cael eu cloddio.

Oherwydd cyfnodau rheolaidd o lifogydd a llifbridd, profwyd fod yna botensial ar gyfer deunydd helaeth, dyfrlawn, wedi’u claddu, yn archeolegol ac amgylcheddol a oedd yn perthyn i'r tirweddau cynharach, ac yn ymestyn y tu hwnt i'r morgloddiau a'r llethrau i'r fflatiau llaid rhynglanwol. Mae natur benodol y priddoedd llawn dwr ar y Gwastadeddau yn golygu bod llawer o'r dyddodion archeolegol wedi'u cadw'n eithriadol o dda.

Mae'r rhain yn cynnwys olion safleoedd anheddiad Neolithig / Oes yr Efydd, gyda thystiolaeth megis olion traed dynol, darganfyddiadau cerrig, asgwrn anifail wedi'i fwtsiera, llwybrau prysglwyni a thai crwn (er enghraifft yng nghyffiniau Collister Pill).

Mae pwysigrwydd cenedlaethol yr ardal rynglanw ar gyfer ei hadnodd archeolegol a hanesyddol unigryw  a chyfoethog yn cael ei gydnabod yn Nhirwedd Gofrestredig Gwastadeddau Gwent o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru. Mae'r Gwastadeddau felly yn adnodd archeolegol a hanesyddol unigryw a llawn cyfoeth yng Nghymru, ac yn sicr o arwyddocâd rhyngwladol.

Mae'r diolch am lawer o'r darganfyddiadau archeolegol pwysicaf a mwyaf nodedig ar y Gwastadeddau yn mynd i'r archeolegydd amatur lleol Derek Upton. Treuliodd lawer o'i amser hamdden yn archwilio ar hyd arfordir Aber Afon Hafren, gan ddarganfod olion traed dynol Mesolithig ym Magwyr ac Aber-wysg, safleoedd Oes yr Efydd yng Nghil-y-coed a'r Redwig a Chwch Pil Magwyr canoloesol, ymhlith eraill. Arweiniodd ei waith at sefydlu Pwyllgor Ymchwil Aber Afon Hafren (SELRC) a chydnabyddiaeth genedlaethol o bwysigrwydd y Gwastadeddau ac archaeoleg arfordirol.

Mae Gwastadeddau Gwent wedi'u cynnwys yng Nghofrestr o Dirweddau Hanesyddol yng Nghymru. Am fwy o fanylion ewch i wefan Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru (Heneb).

Mae gan yr ardal gyfoeth arbennig o archaeoleg o gyfnod Cynhanesyddol a Rhufeinig, yn ogystal ag amrywiaeth o batrymau caeau sy'n amrywio o'r caeau rhannol gyson hynafol i feysydd artiffisial y 18fed ganrif. Mae'r hanes draenio unigryw a’r hanes pwysig o ffermio a chynhyrchu bwyd wedi sicrhau traddodiad a lle i gymunedau heddiw.

Mae enghreifftiau o nodweddion cynhanesyddol nodedig i'r gogledd o Wastadeddau Gwynllŵg, nid nepell o Dirwedd Hanesyddol Gofrestredig, yn cynnwys siambr gladdu beddrod hir Oes yr Efydd ger Parc Cleppa sydd i’w weld o'r M4; mae Gaer Fort ar ochr orllewinol Dinas Casnewydd, a elwir hefyd yn Gaer Tredegar ac yn lleol ‘The Gollars’, yn hen safle bryngaer y dywedir ei bod o'r Oes yr Haearn; a hefyd maen hir o Oes yr Haearn ar dir preifat yn Michaelstone.

Mae olion Oes yr Efydd wedi'i gofnodi mewn gwahanol safleoedd ar welyau mawn dyrchafedig sych, megis yn Chapel Tump ac Allteuryn. Yn fwy diweddar, y tu allan i'r ardal a ddisgrifir yma, yng Nghastell Cil-y-Coed ceir tystiolaeth fanwl o baleosianeli, adeiladweithiau ar sylfaen o bren, estyll o gwch a llawer iawn o ddeunydd diwylliannol.

Darganfuwyd tystiolaeth o'r Oes yr Haearn ardal rynglanw Allteuryn gydag adeiladau hirsgwar pren, llwybrau a maglau pysgod ar silff o fawn cors. Yn Fferm Barland, Chwilgrug, nid nepell o’r ardal, darganfuwyd adeiladau o gerrig a phren o'r Cyfnod Rhufeinig a chafwyd hyd i weddillion llong Frythonaidd-Rufeinig o ddiwedd y drydedd ganrif wrth ymyl cilfach lanw wedi'i chladdu. Gosodai’r canfyddiadau bwyslais ar y cyflwr rhyfeddol y cadwyd deunydd archeolegol o fewn y gwastadeddau ac o’i amgylch.

Olion o lwybr Oes yr Haearn yn y parth rhynglanwol yn Allteuryn

Cynrychiolir y Canol Oesoedd gan nifer fawr o safleoedd Eingl-Normanaidd gan gynnwys cestyll, safleoedd ffosedig, eglwysi, melinau, maenordai a llysoedd. Ceir tystiolaeth o barhad yn yr arddull o ddefnyddio tir rhwng y cyfnod canoloesol a'r ôl-ganoloesol.

Daethpwyd o hyd i olion cwch o'r 13eg ganrif a ddefnyddir ar gyfer masnachu ar draws Aber Afon Hafren, ac efallai gydag Iwerddon, wedi'i gladdu ym mwd yr aber yn agos at Magor Pill. Canfuwyd bod y cwch wedi bod yn cludo mwyn haearn o Forgannwg. Y llongddrylliad yma yw’r darganfyddiad fwyaf o'i gyfnod yn nyfroedd Cymru ac mae'n debyg y mwyaf hyd yma yn Ynysoedd Prydain.

Mae'r tirlun heddiw yn cynrychioli'r cyfnod archeolegol diweddaraf ac ynddi geir y cilfachau ecolegol amrywiol y mae diddordebau cadwraeth natur yn dibynnu arnynt.


Yr Athro Martin Bell yn cyflwyno taith maes archeolegol rhithwir i Allteuryn:


Archaeoleg yn Aber Afon Hafren

Mae Pwyllgor Ymchwil Lefelau Aber Afon Hafren (SELRC) yn cyhoeddi cyfnodolyn blynyddol o'r enw 'Archaeology in the Severn Estuary'. Mae'r rhain ar gael am ddim o wefan Gwasanaeth Data Archaeoleg (ADS).