Bygythiadau i'r Parth Rhynglanwol
Mae delweddau lloeren wedi cynorthwyo ymchwilwyr o Brifysgol Queensland i fapio parthau rhynglanwol y byd. Mae eu hastudiaeth wedi dangos bod amgylcheddau blaendraethau ledled y byd wedi dirywio hyd at 16% rhwng 1984 a 2016.
Mae'r parth rhynglanwol yn ecosystem fregus, sy'n agored i newid yn yr hinsawdd, erydiad a datblygiad.
Newid hinsawdd
Mae planhigion ac anifeiliaid sy'n byw yn y parth rhynglanwol yn arbennig o agored i newid yn yr hinsawdd.
Mae'r parth rhynglanwol yn amgylchedd garw, ac mae llawer o rywogaethau eisoes yn byw i’r eithaf o’u goddefiant. Gall newidiadau mewn tymheredd aer, glaw a ‘stormusrwydd’, yn ogystal â chynnydd yn lefel y môr a newidiadau yn nhymheredd ac asidedd dŵr, gael effaith ddinistriol ar rywogaethau ac ecosystemau.
Gwasgfa arfordirol
Mae ‘gwasgfa arfordirol’ yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r difrod, neu’r colledion, i gynefinoedd a achosir gan strwythurau neu weithredoedd dynol sy’n atal symudiad y cynefinoedd hyn i gyfeiriad y tir, mewn ymateb i gynnydd yn lefel y môr neu gynnydd mewn stormydd.
Mewn system naturiol, wrth i lefel y môr godi, mae cynefinoedd arfordirol, fel morfa heli, yn naturiol yn symud ymhellach i mewn tuag at y tir. Mae adeiladu morglawdd yn atal hyn rhag digwydd ac mae’r cynefin arfordirol yn cael ei ‘wasgu’ wrth i’r cynefin ger y môr erydu.
Datblygiad
Mae ardaloedd arfordirol gwastad, fel Gwastadeddau Gwent, yn arbennig o agored i ddatblygiadau, megis tai, diwydiant a chynhyrchu pŵer. Gallai datblygu cynlluniau ar gyfer cynhyrchu ynni’r llanw yn yr aber gael effaith ddinistriol ar y parth rhynglanwol.