Y Parth Rhynglanwol

Y parth rhynglanwol (a elwir hefyd yn barth arfordirol) yw'r ardal a ddatgelir i'r awyr agored pan mae’r llanw ar drai ac o dan y dŵr ar y penllanw, hynny yw yr ardal rhwng y llinellau llanw ar drai a phenllanw.

Gall y parth rhynglanwol gynnwys llawer o wahanol fathau o gynefinoedd, gan gynnwys clogwyni creigiog, traethau tywodlyd, fflatiau llaid a morfeydd heli. Yn bennaf, morfa heli a fflatiau llaid yw’r arfordir ar hyd Gwastadeddau Gwent, gyda rhai mannau o glogwyni creigiog o amgylch Sudbrook ac ardaloedd o dywod ymhellach allan yn yr aber.

Yn dibynnu ar amrediad y llanw, gall y parth rhynglanwol fod yn gul iawn, dim ond ychydig fetrau, neu gannoedd o fetrau o led. Mae gan Aber Afon Hafren un o'r amrediadau llanw uchaf yn y byd, ac felly mae ganddi arwynebedd rhynglanwol enfawr sy'n ymestyn cannoedd o fetrau o'r lan.

Pan mae’r llanw ar drai, mae tua 20,300 hectar o fflatiau llaid, fflatiau tywod a morfa heli i’w gweld, y bedwerydd arwynebedd fwyaf mewn aber yn y DU.

 

Amgylchedd garw

Mae'r parth rhynglanwol yn amgylchedd eithafol oherwydd ei fod yn goddef newidiadau syfrdanol yn gyson. Nid yn unig y mae'r dŵr yn parhau i godi a gostwng, ond gall halwynedd a thymheredd amrywio'n fawr. Mae cerhyntau cryfion, tywydd ystormus, a dŵr llawn silt yn ychwanegu at anawsterau byw yma.

Un o'r prif ffactorau sy'n dylanwadu ar y parth rhynglanwol yw'r llanw, sy'n creu newidiadau cyson yn yr amgylchedd. O ganlyniad, mae'r parth rhynglanwol yn profi dau gyflwr gwahanol: un pan mae’r llanw ar drai a datgelir y parth i'r awyr agored a'r llall ar benllanw pan fydd o dan ddŵr y môr.

Mae tymheredd yn y parth rhynglanwol yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar yr amser o'r dydd a statws y llanw. Pan ddatgelir y parth i'r awyr agored pan mae’r llanw ar drai, gall y tymheredd godi neu ostwng yn ddramatig. Ar y llaw arall, yn ystod penllanw, mae'r tymheredd yn gymharol sefydlog oherwydd effaith byffro dŵr y môr. 

Gall effaith tonnau fod o fudd, fel cynnydd mewn ocsigeniad a gwasgariad maetholion, ond gallant hefyd achosi heriau fel grymoedd tonnau cryf a'r potensial o ddadleoli bywyd ar hyd yr arfordir. Gall lefelau halwynedd yn y parth rhynglanwol amrywio hefyd, yn dibynnu ar ffactorau fel glaw, anweddiad, a phresenoldeb ffynonellau dŵr croyw.

Rhaid i organebau sy'n byw yn y parth hwn berchen ar yr addasiadau angenrheidiol i oroesi'r amodau cyfnewidiol hyn. Er enghraifft, gall rhai rhywogaethau reoli eu crynodiad halen mewnol tra mae eraill yn gallu gwrthsefyll newidiadau sylweddol mewn halwynedd allanol.

Mae gan bob rhywogaeth o fewn y parth rhynglanwol lefel o oddefiant am ba mor hir y gallant oroesi y tu allan o'r dŵr. Mae hyn yn penderfynu ble ar y lan y gallech ddod o hyd iddynt. Gelwir hyn yn gylchfäedd neu barthu ac mae'n effeithio ar blanhigion ac anifeiliaid.

Mae'r amodau llym yr aber yn cyfyngu ar yr ystod o rywogaethau a all fyw yn y parth rhynglanwol. Fodd bynnag, mae niferoedd o'r rhai a all oroesi yn enfawr, yn enwedig ar fflatiau llaid mwy sefydlog. Fel arfer mae rhannau o lannau creigiog yn fwy amrywiol, gyda phyllau glan môr cysgodol a gwymon yn darparu cynefin mwy sefydlog.

 

Bioamrywiaeth

Llyngyr y traeth, hefyd Abwydyn y tywod (jtdai, iNaturalist (CC BY-NC))

Mae’r parth rhynglanwol yn rhan hynod bwysig o ecosystem ein harfordir, gan ddarparu cartrefi a bwyd i rywogaethau uwchben ac o dan y dŵr.

Mae fflatiau llaid yn cynnal poblogaethau niferus o infertebratau, gan gynnwys llyngyr fel llyngyr y traeth (Arenicola marina - yn y llun) a molysgiaid, fel Cogwrn y lafwr (Peringia ulvae) a Chragen delyn yr aber (Macoma baltica).

Mae'r infertebratau hyn yn darparu cyflenwad bwyd ar gyfer niferoedd mawr o adar mudol, ac mae Aber Afon Hafren o bwysigrwydd rhyngwladol i nifer ohonynt.

Ar drai mae'r fflatiau llaid yn cael eu defnyddio gan nifer fawr o'r adar hyn. Pibydd y mawn yw'r mwyaf niferus, gyda heidiau o 2000 yn bwydo yma'n aml. Ymhlith y rhywogaethau o rydyddion eraill sy'n bresennol mewn niferoedd sylweddol mae'r gylfinir, y bioden fôr, y pibydd coesgoch a'r coegylfinir, tra bod hwyaden yr eithin hefyd yn bwydo ar y mwd agored.

Yn ystod y flwyddyn, mae’r amrywiaeth o rywogaethau’n newid, gydag ymfudwyr y gwanwyn yn ymweld ym misoedd Ebrill a Mai, ymfudwyr yr hydref rhwng Awst a Hydref ac ymwelwyr y gaeaf rhwng Tachwedd a mis Mawrth.

Pioden fôr (Ben Andrew, RSPB-images.com)

 

Ailgylchu Maethynnau

Mae parthau rhynglanwol yn chwarae rhan hanfodol mewn

ailgylchu maethynnau a chynhyrchiant cyffredinol mewn ecosystemau arfordirol. Wrth i'r llanw godi a disgyn, mae’n achosi mewnlifiad o faetholion, sy'n hybu tyfiant mewn planhigion morol amrywiol.

Mae organebau microsgopig fel ffytoplancton a phlanhigion mwy, fel gwymon, yn ffurfio sylfaen gweoedd bwyd cymhleth. Mae'r cynhyrchwyr cynradd hyn yn hanfodol ar gyfer cynnal y llysysyddion niferus, fel draenog môr a gwichiaid.

Yna mae'r porwyr hyn yn darparu bwyd i ysglyfaethwyr mwy, fel adar. Mae'r llif hwn o drosglwyddo ynni yn galluogi'r parth rhynglanwol i gynnal lefel uchel o gynhyrchiant a bioamrywiaeth.

 

Parthu

Gellir rhannu'r rhanbarth rhynglanwol yn dri pharth (isel, canol ac uchel), yn seiliedig ar yr amser datgelu cyfartalog cyffredinol y parth.

  • Mae’r parth rhynglanwol isel, sy'n ffinio â'r parth islanw bas, yn agored i’r awyr agored yn unig pan mae’r llanw ar drai ar ei isaf, gyda nodweddion morol yn bennaf.

  • Mae'r parth rhynglanwol canol yn cael ei ddatgelu a'i foddi'n rheolaidd gan lanwau cyffredin.

  • Mae’r parth rhynglanwol uchel yn cael ei orchuddio yn unig gan y penllanwau uchaf ac mae'n treulio llawer o'r amser fel cynefin daearol.

Uwchben y parth rhynglanwol uchel mae'r parth sblash.

Archaeoleg

Mae'r morfeydd heli a'r fflatiau llaid ar hyd Aber Afon Hafren yn cynnwys archeoleg ryfeddol.

Mae’r un broses sy’n creu’r cynefinoedd hyn yn ardderchog am storio carbon (gwaddodion llawn dŵr gyda lefelau isel o ocsigen) yn helpu i ddiogelu arteffactau o fewn gwaddodion hefyd. Mae deunydd organig, fel pren, yn aml wedi'i gadw'n dda yn y gwaddodion morfa heli anocsig.

Islaw’r morfa heli presennol mae nifer o dirluniau hynafol sy’n dyddio’n ôl dros 12,000 o flynyddoedd i ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf. Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae llawer o ddarganfyddiadau trawiadol wedi'u gwneud, gan gynnwys olion traed dynol ac anifeiliaid, trap pysgod, gwersylloedd, anheddau, cychod a llwybrau.

Cloddio cwch Pil Magwyr (Amgueddfa Genedlaethol Cymru)

Oeddech chi'n gwybod?

Mae'r llanw'n dod â thua 5 biliwn tunnell o ddŵr i Aber Afon Hafren rhwng Caerdydd a Sharpness ddwywaith y dydd.

Mae gan Aber Afon Hafren rai o'r llanwau uchaf yn y byd: yr uchder cyfartalog yw 9.2m, ond gall llanw uchel eithafol gyrraedd 14.7m (48 troedfedd).