Archwilio’r Arfordir
Gwastadeddau Gwynllŵg
Mae dau brif bwynt mynediad ar gyfer arfordir Gwastadeddau Gwynllŵg ym Mharc Tredelerch a Thafarn y Lighthouse.
Gan ddechrau o Barc Tredelerch, ardal o barcdir ar gyrion Caerdydd, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i’r de-ddwyrain tuag at yr arfordir.
Wrth fynd tua’r dwyrain ar hyd y morglawdd byddwch yn dod at ddwy ardal helaeth o forfa heli o’r enw Glanfa Fawr Tredelerch a Glanfa Fawr Llanbedr Gwynllŵg. Mae ‘wharf’ (glanfa) yn derm canoloesol sy’n cyfeirio at ardaloedd o forfa heli y tu hwnt i’r morglawdd a ddefnyddiwyd ar gyfer pori. Yng Nglanfa Fawr Tredelerch mae rhan o forglawdd Tuduraidd y tu ôl i'r morglawdd modern.
Ymhellach i'r dwyrain, Gowt Llanbedr Gwynllŵg yw'r prif bwynt draenio ar gyfer dŵr croyw ar Wastadeddau Gwynllŵg. Mae dŵr sy'n disgyn ar y tir fferm o'i amgylch ac ar yr ucheldiroedd yn cael ei sianelu i'r ‘Gowt’ gan system gymhleth o rewynau a ffosydd. Pan fydd y dŵr yn cyrraedd y morglawdd, mae’n mynd trwy giât llanw (y ‘gowt’) ac allan i’r aber. Wrth i'r llanw ddod i mewn, mae pwysedd dŵr yn gwthio'r giât ar gau, gan atal dŵr hallt rhag mynd i mewn i'r Gwastadeddau.
Gelwir yr ardal tua'r môr o Gowt Llanbedr Gwynllŵg yn Gorsydd Llanbedr Gwynllŵg, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy'n nodedig am ei adar sy'n cael eu denu i'r corsydd gan yr infertebratau toreithiog a geir ar y fflatiau llaid llanwol.
Pioden fôr (Andy Hay, rspb-images.com)
Chwiliwch am y gylfinir, pibydd y mawn, pioden fôr, hwyaden lydanbig a hwyaden yr eithin. Mae'r corsydd hefyd yn denu adar ysglyfaethus, gan gynnwys y dylluan glustiog, yr hebog tramor a'r cudyll bach. Rheolir yr ardal gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent fel gwarchodfa natur.
Saif Tafarn y Lighthouse ychydig o dan y morglawdd tuag at gyfeiriad y tir. Er bod y dafarn ar gau ar yr adeg o ysgrifennu hyn, mae posib parcio am ddim ac mae ardal bicnic wrth ymyl maes parcio'r dafarn.
O Dafarn y Lighthouse, dilynwch lwybr yr arfordir tua’r dwyrain heibio i Oleudy Gorllewin Wysg (adeiladwyd yn 1821) ac i mewn i Gasnewydd, gan groesi’r Wysg ger yr enwog Pont Gludo Casnewydd (neu dilynwch y dargyfeiriad os yw’r bont ar gau).
Pont Gludo Casnewydd (C Harris)
Morfa Gwent
Gan groesi i ochr ddwyreiniol Afon Wysg, mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn lle gwych i archwilio arfordir gwastadeddau Morfa Gwent. Mae’r Warchodfa Natur Genedlaethol hon yn gorchuddio dros 1000 o erwau ac yn cynnwys gwelyau cyrs eang, lagwnau, a chanolfan ymwelwyr a chaffi rhagorol.
Gwlyptiroedd Casnewydd (C Harris)
Dilynwch y prif lwybr i lawr at yr arfordir a Goleudy Dwyrain Wysg (adeiladwyd yn 1893). Yna ewch i’r dwyrain ar hyd Llwybr Arfordir Cymru tuag at Pil Allteuryn, un o’r prif fannau draenio ar gyfer Morfa Gwent.
O Pil Allteuryn, mae llwybr yr arfordir yn arwain chi i Drwyn Allteuryn, un o’r mannau uchaf ar hyd y rhan yma o’r arfordir. Arferai fod yn ynys o fewn y corsydd, y bryn hwn oedd safle Priordy Allteuryn. Er nad oes dim ar ôl bellach o adeiladau'r priordy, mae tirlun y rhan yma o'r Gwastadeddau yn ddyledus iawn i'r mynachod canoloesol.
Ôl-troed dynol Mesolithig (C Harris)
Mae’r blaendraeth yn Allteuryn wedi cael ei archwilio’n helaeth gan archeolegwyr ac mae’n cynnwys llawer o arteffactau sydd wedi’u diogelu’n dda, gan gynnwys olion coedwig hynafol a safai ar un adeg lle mae’r aber yn llifo erbyn hyn, olion traed dynol ac anifeiliaid Mesolithig, ac adeiladau a llwybrau o’r Oes Haearn.
Dilynwch lwybr yr arfordir tua’r dwyrain ar hyd pen uchaf y morglawdd, gan edrych (a gwrando) am y gylfinir, piod y môr, ac adar eraill y glannau sy’n bwydo ar y fflatiau llaid pan mae’r llanw ar drai. Mae golygfeydd gwych ar draws yr aber i'r gorllewin tuag at ynysoedd Echni a Ronech, i'r de tuag at arfordir Gwlad yr Haf, ac i'r dwyrain tuag at Bont Tywysog Cymru.
Wrth i chi fynd tua'r dwyrain, byddwch yn mynd heibio Pil Coldharbour, Pil Magwyr, a Phil Collister, lle mae dŵr croyw yn cael ei arllwys o'r Gwastadeddau i'r aber. Roedd Pil Magwyr yn safle porthladd canoloesol o'r enw Abergwaitha. Er nad oes dim ar ôl bellach, yn 1994, darganfuwyd cwch o'r 13eg ganrif wedi'i gladdu yn y mwd 500m oddi ar y lan.
Gerllaw Pil Collister mae darn o forglawdd canoloesol a oedd wedi rhannu’r tir ffermio dan warchodaeth i’r gorllewin oddi wrth Rhos Cil-y-coed, a oedd yn agored i’r môr tan y 1850au. Mae'r tir i'r dwyrain o'r Pil yn amlwg yn uwch na'r tir i'r gorllewin.
Ar ôl Pil Collister, mae llwybr yr arfordir yn mynd tua’r tir ar draws Rhos Cil-y-coed, gan groesi traffordd yr M4, ac ymlaen tuag at gyrion Cil-y-coed. Yng Nghil-y-coed, mae'r llwybr yn troi tua'r de, gan groesi'n ôl dros yr M4 cyn troi i'r dwyrain tuag at bentref Sudbrook.
Mae llwybr yr arfordir yn mynd trwy gaer Sudbrook, gwersyll o'r Oes Haearn gyda rhagfuriau trawiadol, ac adfeilion eglwys y Drindod Sanctaidd gerllaw. Cadwch olwg am Ganolfan Ddehongli fechan ond trawiadol Sudbrook, sy’n adrodd hanes hynod ddiddorol y pentref ac adeiladu Twnnel Hafren sy’n cysylltu Cymru a Lloegr.
Prince of Wales Bridge from Black Rock (C Harris)
Y Pysgotwr yn y Garreg Ddu
O Sudbrook, mae’r llwybr yn eich arwain tuag at Y Garreg Ddu, parc bach gyda golygfeydd godidog ar hyd yr aber. Mae’r Garreg Ddu wedi bod yn fan croesi rhwng Cymru a Lloegr ers canrifoedd. Yn 1864, agorodd Rheilffordd Undeb Bryste a De Cymru groesfan rheilffordd a fferi stêm newydd, gyda dau bier enfawr y naill ochr i'r Hafren. Caeodd y groesfan rheilffordd a fferi stêm yn 1886 pan agorodd Twnnel Hafren ar gyfer gwasanaethau rheolaidd i deithwyr, ond gallwch weld sylfeini brics y pier pan mae’r llanw ar drai hyd heddiw.
Mae’r Garreg Ddu hefyd yn gartref i grŵp o bysgotwyr rhwydi gafl, sy'n pysgota eog gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Chwiliwch am y pysgotwyr yn cerdded drwy’r dŵr pan fo’r llanw ar drai gyda’u rhwydi siâp ‘Y’.
Pysgotwr Rhwydi Gafl (Nanette Hepburn)
Seiniau'r arfordir
Wrth i chi archwilio, gwrandewch am rai o synau nodedig yr arfordir.
"Gouts, wharfs a pills…"
Mae gan Wastadeddau Gwent ei iaith leol ddiddorol ei hun sy'n rhoi cipolwg ar darddiad y tirlun dros 1800 o flynyddoedd yn ôl a sut mae'n parhau i gael ei reoli heddiw.