Natur a Bywyd Gwyllt
Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref i gyfuniad cyfoethog o fywyd gwyllt. Yn benodol oherwydd newidiadau graddol i'r tirlun a chanrifoedd o gynnal a chadw sefydlog o'r sianeli dŵr i ddilyn, mae bellach gan Wastadeddau Gwent un o'r casgliadau gorau o infertebratau dyfrol yn y wlad.
Cornchwiglen (Mike Boyes)
Gyda phob cae ar draws 5856 hectar o Wastadeddau Gwent wedi eu ffinio gan sianel ddŵr, mae potensial bywyd gwyllt yn rhyfeddol. Mae'r ffosydd, rhewynau a phrif afonydd yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwahanol rywogaethau, o blanhigion fasgwlaidd blodeuol lleiaf y byd Wolffia arrizha, i'r prif ysglyfaethwyr tebyg i neidr y gwair, y crëyr bach a’r dyfrgi. Mae planhigion megis llyriad y dŵr â'i flodau gwyn cain a’r saethlys yn ffynnu yn y dyfroedd clir. Hefyd mae planhigion tanddwr fel dyfrllys a phlanhigion â dail sy’n arnofio megis brigwlydd a ffugalaw bach, yn gyffredin ar hyd y system ddraenio.
Mae'r casgliad o chwilod dŵr yn unigryw yng Nghymru ac yn gartref i bethau prin, megis y chwilen arian fawr, na welir yn unman arall yng Nghymru ac wedi'i gyfyngu i ychydig o safleoedd eraill yn ne Lloegr.
Mae Gwastadeddau Gwent hefyd yn un o’r ychydig gadarnleoedd sy'n weddill ar gyfer y gardwenynen fain Bombus sylvarum - rhywogaeth sy’n flaenoriaeth yn y DU.
Mae'r gwastadeddau hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o adar, yn enwedig rhywogaethau gwlyptir fel y cambig, y gylfinir, pioden fôr, cornchwiglen a hwyaden yr eithin, sy'n bwydo ar y bywyd cyfoethog o infertebratau ar hyd yr arfordir ac yn y glaswelltiroedd gwlyb. Yn ddiweddar, mae sawl rhywogaeth wedi dychwelyd i fridio ar y Gwastadeddau, gan gynnwys boda‘r gwerni, y garan cyffredin ac aderyn y bwn; gellir clywed 'bŵm' isel yr aderyn y bwn gwrywaidd unwaith eto ar ôl absenoldeb o fwy na dau gan mlynedd.
Llygoden pengron y dŵr
Mae cadarnhad fod nifer o rywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd a rhai’r DU yn bresennol, gan gynnwys pathewod, nadroedd y gwair, rhywfaint o rywogaethau ystlumod, dyfrgwn, madfallod dŵr cribog a llygod pengrwn y dŵr. Roedd y llygod pengrwn y dŵr atyniadol wedi diflannu'n lleol o'r Gwastadeddau ond bellach yn cynyddu diolch i raglen ailgyflwyno a rheoli minc a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Mae Gwastadeddau Gwent hefyd yn un o'r blociau mwyaf (10,500ha) o gors arfordirol a gorlifdir pori (cynefin sy’n flaenoriaeth i’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth) sydd wedi goroesi yn y DU. Mae'r system ddraenio o ffosydd yn ymestyn i 1,629km. O fewn y bloc hwn, mae wyth SoDdGA gwlyptir sy'n gorchuddio 5,700ha, yn ddynodedig oherwydd yr amrywiaeth o blanhigion ac infertebratau dyfrol sydd wedi gallu manteisio ar yr amodau amgylcheddol penodol a grëwyd gan y lefelau dŵr a threfn rheolaeth llystyfiant y Gwastadeddau hanesyddol.
I'r de mae Aber Afon Hafren. Wedi ei ddynodi fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer adar prin a bregus; ac Ardal Cadwraeth Arbennig ar gyfer y cynefinoedd morfa heli dan fygythiad a rhywogaethau eraill megis llysywod pendoll yr afon a’r môr, gwangod, eogiaid a llysywod.
Mae’r Afon Wysg, sy'n rhannu Gwastadeddau Gwynllŵg a Chil-y-coed wrth lifo o Gasnewydd i Aber Afon Hafren, ac Afon Gwy, sy'n treiddio Aber Afon Hafren yng Nghas-gwent, hefyd yn cefnogi cynefinoedd o arwyddocâd rhyngwladol, ac maent yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae nodweddion arbennig yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau pysgod tebyg i lysywod pendoll y môr, gwangod ac eogiaid yr Iwerydd.