Y Llifogydd Mawr, 1607

Ar 30 Ionawr 1607, cafodd morgloddiau y naill ochr i Aber Afon Hafren eu boddi gan ddŵr llifogydd.

Roedd cryn dipyn o Wastadeddau Gwent a Gwlad yr Haf dan ddŵr, gan ladd tua 2,000 o bobl a llawer o anifeiliaid. Cyrhaeddodd y llifddwr ddyfnder o 10 troedfedd mewn rhai ardaloedd, a lledaenu hyd at 14 milltir i ganol y tir. Cafodd nifer o ddinasoedd eu heffeithio, gan gynnwys Caerdydd, Bryste a Chaerloyw.

Mae'n debygol y cafodd y llifogydd ei achosi gan gyfuniad o benllanw mawr anarferol o uchel, storm dreisgar a phwysedd isel i'r atmosffer, a achosodd i lefelau môr godi ymhellach.

Ailargraffiad 1884 o ‘chapbook’ (Steve Rippon)

Cofnodir manylion y digwyddiad mewn pamffledi newyddion cyfoes, 'chapbooks' yn Saesneg. Yn aml, byddai’r pamffledi yn darlunio lluniau dramatig o'r difrod. Cyhoeddwyd y llun a ddangosir yma yn gyntaf mewn pamffled am Wlad yr Haf cyn cael ei ailddefnyddio mewn un arall a oedd yn adrodd hanes y llifogydd yn Sir Fynwy.

Mae rhai adroddiadau'n sôn am dywydd stormus, tra bod eraill yn methu â sôn am y tywydd, gan awgrymu bod y llifogydd wedi digwydd heb rybudd. Mae hyn wedi arwain rhai gwyddonwyr i awgrymu y gallai'r llifogydd fod wedi'i achosi gan tswnami, ond ychydig o dystiolaeth sydd i gefnogi'r ddamcaniaeth hon.

Y plwyfi a oedd wedi'u lleoli'n gyfan gwbl ar Wastadeddau Gwent a ddioddefodd waethaf, ac mae llifogydd 1607 yn cael ei goffáu mewn sawl un o'u heglwysi, er nad yw pob un o'r placiau'n gyfoes. Gellir gweld y rhai yn Redwig, Trefonnen a Llansanffraid Gwynllŵg ar y tu allan, ac maent yn dangos uchder y llifogydd. Yn Allteuryn mae'r plac yn y gangell yn darllen: “... heare was lost 5000 and od pownds besides 22 people was in this parrish drownd ...”. Mae £5000 yn cyfateb i tua £650,000 heddiw.

Mae rhai cofnodion a chofebau cyfoes o'r llifogydd yn cofnodi'r dyddiad fel 20fed o Ionawr 1606, oherwydd yn yr ail ganrif ar bymtheg dechreuodd y Flwyddyn Newydd ar 25ain o Fawrth. Ar ben hynny, yn 1752 newidiodd Cymru a Lloegr yn ffurfiol o'r hen galendr Iŵl i galendr Gregori mwy cywir, a ychwanegodd 10 diwrnod at y dyddiad. Felly, y darlleniad modern o ddyddiad y llifogydd yw 30ain o Ionawr 1607.


Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am lifogydd 1607 darllenwch Adroddiad Arbennig RMS: 1607 Bristol Channel Floods: 400-Year Retrospective.


Mae Rose Hewlett, goruchwyliwr ymchwilwyr hanes Lefelau Byw, yn astudio llifogydd 1607 ar gyfer ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Bryste. Mae hi'n arbenigo mewn dogfennau a grëwyd yn sgil y llifogydd ar lefel leol. Mae'r rhain yn taflu goleuni newydd ar achos, effaith a maint y llifogydd, a sut y gwnaeth pobl ailadeiladu eu bywydau a'u bywoliaeth yn ei sgil. Mae ei llyfr, The Day the Sea Came In: 1607 on the Gwent Levels, yn adrodd hanes y llifogydd gan ddefnyddio'r cofnodion hynny. Fe'i cyhoeddwyd ar y cyd â phrosiect Lefelau Byw. Bydd Rose yn darparu diweddariadau achlysurol ar ei gwaith mewn digwyddiadau Lefelau Byw.


...roedd y môr a gafodd ei symud yn dymhestlog gan wyntoedd yn gorlifo’i lethrau cyffredin a boddi 26 o blwyfi wrth ymyl ochr yr arfordir yn y sir a enwyd eisoes yn Nhrefynwy."

- Dyfyniad wedi ei gyfieithu o Lamentable newes out of Monmouthshire in Wales, 1607

 

Roedd llawer o’r rhai a oedd yn gyfoethog yn y bore yn gardotwyr cyn canol dydd ...

- Dyfyniad wedi ei gyfieithu o The Gentleman's Magazine, 1762