Morglawdd yn Allteuryn
Ni allai Gwastadeddau Gwent fodoli heb y morglawdd.
Mae’r Gwastadeddau tua 7m ar gyfartaledd uwchlaw lefel y môr gymedrig, ychydig yn uwch ar yr arfordir ond yn is tuag at ymyl y mewndir (5m). Aber Afon Hafren sydd â’r ail amrediad llanw uchaf yn y byd, sef 15m. Golyga hyn y byddai rhan fwyaf o'r Gwastadeddau yn boddi o dan sawl metr o ddŵr ddwywaith y dydd ar lanw uchel.
Mae'n debygol mai milwyr Rhufeinig adeiladwyd rhannau cyntaf y morglawdd o gwmpas 100 OC, ond mae'n debygol ei fod wedi bod yn llawer is ac yn llai cywrain na'r wal bresennol (roedd lefelau'r môr yng nghyfnod y Rhufeiniaid tua 1.5m yn is).
Mae mynachod Priordy Allteuryn yn cael y clod am ailadeiladu ac ymestyn amddiffynfeydd Rhufeinig y môr, dechrau’r Oesoedd Canol. Ni wyddom union linell y morglawdd hwn ond efallai yr oedd rhwng 350m a 600m ymhellach allan yn yr aber. Dros y canrifoedd i ddod, wrth i'r môr ymdrechu i adennill y tir, cafodd y wal ei esgeuluso, ei ailadeiladu, ei addasu a'i symud tuag at y mewndir lawer gwaith. Bellach mae llawer o'r tirlun Rhufeinig a chanoloesol wedi'i gladdu o dan fwd yr aber; mae chwedl leol yn adrodd bod yr eglwys wreiddiol yn Porton wedi'i foddi gan y môr.
Ffos Pil Collister (chwith) a morglawdd canoloesol (dde): roedd y wal yn rhannu y Rhostir Cil-y-coed agored i'r dwyrain o dir fferm i'r gorllewin.
Mae llinell y wal bresennol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Fe'i hailadeiladwyd o 1954 hyd 1974 ac yn 35km o hyd. Yn dilyn storm fawr yn 1990, ymgymerwyd â chynllun o godi a chryfhau'r wal. Mae llawer o'r morglawdd modern yn wynebu blociau mawr o gerrig, gyda wal 'torri tonnau' goncrit ar y top sy'n adlewyrchu egni'r tonnau sy'n dod i mewn, yn ôl i'r môr, ond mae yna rannau mawr o gloddiau pridd symlach o hyd, yn enwedig i'r dwyrain o Pil Magwyr, ac ychydig o rannau o'r morglawdd canoloesol gwreiddiol yn Nhredelerch ac ar hyd ffos Pil Collister.
Oriau agor
Mae’r llwybr cerdded ar hyd top y morglawdd ar agor trwy’r flwyddyn.Sut i gyrraedd yno
Ar drafnidiaeth gyhoeddus
Ar feic
Yn y car
Wyddoch chi…?
Daw’r enw Saesneg ar Allteuryn, ‘Goldcliff’ o fwyn o'r enw mica a oedd unwaith i’w weld yn y clogwyn ym Mhwynt Allteuryn ac a ddisgleiriodd fel aur yng ngolau'r haul. Yn 1188, cyfeiriodd yr hanesydd o Gymru, Gerallt Gymro at ‘Gouldclyffe’ fel “…llachar gyda disgleirdeb rhyfeddol”.