Yn 2002, yn ystod adeiladu Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd ar lan orllewinol Afon Wysg, darganfuwyd gweddillion llong o'r 15fed ganrif.
Delwedd arlunydd o Long Casnewydd (David Jordan / Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd)
Roedd y llong yn wreiddiol yn mesur 35 metr o hyd ac yn cario tua 168 tunnell o gargo, o bosib gwin. Datgelwyd dadansoddiad o'r coed derw fod y cwch wedi cael ei adeiladu tua 1449 yn rhanbarth y Basg yng ngogledd Sbaen. Mae darganfyddiadau'n dangos fod y llong yn debygol o fod yn masnachu rhwng Bryste ac ail borthladd pwysicaf y wlad, Portiwgal.
Roedd gweddillion fframwaith oedd yn cynnal y llong yn awgrymu ei bod wedi ei hangori ar gyfer atgyweiriadau pan ddisgynnodd y fframwaith a chwalodd y llong i mewn i’r mwd.
Cafodd rhai rhannau eu hachub ar y pryd, ond claddwyd ochr dde’r llong ym mwd yr afon, lle'r arhosodd am y 500 mlynedd nesaf. Mae dadansoddiad o'r pren yn awgrymu i hyn ddigwydd rywbryd wedi Gwanwyn 1468.Roedd yr amodau anocsig yn y mwd wedi diogelu pren y llongau'n berffaith ynghyd â llawer o ddeunydd organig, fel esgyrn anifeiliaid, esgidiau lledr, deunyddiau planhigion, a rhannau o bwmp y llong, un o'r enghreifftiau cynharaf a ddarganfuwyd hyd yma.
Esgid ledr, wedi'i diogelu bron yn berffaith yn y mwd anocsig, un o dros 1000 o arteffactau a gafodd eu hadfer ynghyd â choed y llong (© Gwasanaeth Amgueddfeydd a Threftadaeth Casnewydd)
Darn arian Ffrengig ‘petit blanc’, a ddarganfuwyd wedi’i osod yn y fframwaith rhwng cilbren a blaen y llong yn ystod y gwaith cadwraeth, o bosib am lwc.
Cafodd sgerbwd dyn ifanc, oedd wedi'i ddiogelu'n berffaith ei ddarganfod o dan weddillion trawstiau crud y llong, a chredwyd yn wreiddiol mai un o'r rhai a laddwyd pan gwympodd y crud oedd y dyn hwn. Ond yn ddiweddarach dangosodd dyddio radiocarbon ei fod wedi marw tua 180 CC, ac roedd ei ddarganfyddiad yn ddamwain lwcus arall.
Ar ôl ei darganfod, cafodd pren derw’r llong ei adfer a’i ddiogelu mewn cyfleuster arbennig, proses sydd wedi cymryd dros 10 mlynedd. Ymwelodd dros 22,000 o bobl â’r safle cloddio wrth iddo gael ei adfer. Yn y pen draw, y gobaith yw y gellir rhoi gweddillion y llong yn ôl at ei gilydd a’u harddangos i’r cyhoedd yng Nghasnewydd.
Comisiynwyd y ddwy ffilm animeiddiedig hyn gan Brosiect Llongau Canoloesol Casnewydd. Mae'r ffilm gyntaf yn dangos adeiladu'r llong, mae'r ail yn dangos ei thaith olaf o Lisbon i Gasnewydd.
Mwy o ddarganfyddiadau llongau
Nid Llong Casnewydd yw'r llong gyntaf i gael ei darganfod ar Y Gwastadeddau, ac nid hon yw'r hynaf.
Yn 1990, darganfu archeolegwyr ddarnau o gwch o'r Oes Efydd ger Castell Cil-y-Coed yn dyddio tua 1800 CC.
Yn 1993, dadorchuddiwyd dwy astell o gwch estyll gwnïedig o’r Oes Efydd mewn cloddfa archeolegol yn Allteuryn, yn dyddio tua 1000 CC. Math o gwch â gwaelod gwastad oedd cwch estyll gwnïedig gyda’r estyll pren wedi'u rhwymo â ffibrau planhigion. Defnyddiwyd llongau o'r fath i gludo pobl, nwyddau a da byw ar draws ac ar hyd afonydd llanw ac ar hyd arfordir yr aberoedd.
Delwedd arlunydd o gwch planc wedi'i wnïo o'r Oes Efydd (Trwy garedigrwydd Amgueddfa Llongau Canoloesol Casnewydd)
Archeolegwyr yn gweithio ar adfer cwch Pil Magwyr (© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales)
Yr un flwyddyn, darganfu gweithwyr a oedd yn adeiladu'r EuroPark ger Magwyr olion cwch Rhufeinig-Geltaidd o'r 4edd ganrif; Cwch Fferm Barlands. Yn rhyfeddol, roedd y llong, oedd yn mesur 11.4 x 3.2 x 0.9m, yn fwy neu lai yn gyfan ac yn rhannu rhai nodweddion â chychod o dde-orllewin Llydaw a ddisgrifiwyd gan Julius Caesar yn 56 CC [darllen mwy…].
Yn 1995, darganfuwyd llongddrylliad o'r 13eg ganrif yn y mwd ger Magor Pill. Roedd y llong estyllog wedi bod yn cludo mwyn haearn o Forgannwg ac fe’i drylliwyd yng ngheg yr afon, ger porthladd bach oedd yno bryd hynny [darllen mwy…].
Mae pob un o'r pedair llong wedi cael eu hadfer a'u cadw.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyfeillion Llong Casnewydd.
Mae gan y Gwasanaeth Data Archaeoleg (ADS) archif gynhwysfawr o adroddiadau a ffotograffau o brosiect Llong Casnewydd i'w gweld a'u lawrlwytho am ddim.
Gwefan y Llong