Priordy Allteuryn

Tua 1113, rhoddodd Arglwydd Normanaidd Caerllion, Robert de Chandos, dir yn Allteuryn i Abaty Bec, ger Rouen yn Ffrainc, a fyddai’n sylfaen i Briordy Benedictaidd Santes Mair Magdalen.

Adeiladwyd y priordy ar ‘ynys’ Allteuryn, ardal o dir uchel ar yr arfordir, ac ar y dechrau roedd yn cynnwys tua 200 erw o ‘rostir’ rhwng Allteuryn a Threfonnen. Yn anarferol, cofnodir bod y mynachod yn Allteuryn yn gwisgo gwisg wen; roedd mynachod Benedictaidd fel arfer yn gwisgo du.

Mae’n debygol mai morfa heli agored oedd y tir yr adeg yma ac yn borfa garw tymhorol, dim ond yn addas ar gyfer pori yn ystod misoedd sych yr haf, tra bod y llanw yn gorlifo’r tir yn rheolaidd yn ystod y gaeaf.

Er mwyn gwella'r tir, atgyweiriodd y mynachod y morglawdd a’i estyn ar hyd yr arfordir tuag at geg Afon Wysg, ac adeiladu rhwydwaith o ffosydd, neu ‘rhewynau', i reoli lefelau dŵr. Roedd llawer o'r rhewynau yn dilyn nentydd a chilfachau oedd yn bodoli, gan greu patrwm nodweddiadol o gaeau afreolaidd eu siâp a lonydd troellog a welir heddiw. Efallai mai'r mynachod hefyd a fu'n gyfrifol am adeiladu'r Monks’ Ditch, y prif rewyn ar ochr orllewinol Whitson.

Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd y Priordy yn dal y rhan fwyaf o'r tir arfordirol uwch rhwng Trefonnen ac Allteuryn, ynghyd â rhannau helaeth o'r ffen gefn fewndirol, tir yng Ngholdra ger Caerllion, ac ystadau yn Nyfnaint a Gwlad yr Haf. Roedd hefyd yn berchen ar danerdy, melinau proffidiol ym Magwyr, Gwndy, Llansanffraid Gwynllŵg a Milton, a physgodfeydd eog gwerthfawr, gan ei wneud y priordy Benedictaidd cyfoethocaf yng Nghymru; yn 1291 rhoddwyd gwerth o £164 arno. Ar yr adeg hon, roedd tua 25 o fynachod yn y priordy.

Darlun gan artist o sut y gallai'r priordy fod wedi edrych tua 1250 (Dextra Visual)

Dechreuodd ffawd y priordy newid er gwaeth pan ddechreuodd rhyfel gyda Ffrainc yn 1295. Ystyriwyd Allteuryn fel priordy 'estron' (un ynghlwm wrth fynachlog dramor) a daeth yn destun gorchmynion rheolaidd am daliad gan y Goron drwy gydol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Gostyngodd ffawd y priordy ymhellach oherwydd camreoli, llygredigaeth a thrychinebau naturiol.

Yn 1318, diswyddwyd y prior Ralph de Runceville o'i swydd gan abad Bec a chafodd ei ddisodli gan William de St. Albino. Yn anffodus i brior William, gwrthododd Ralph adael a daliodd y prior am chwe mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, "torrodd drysorfa'r priordy, a chymerodd a chludodd y cwpanau a llestri arian ac aur eraill i ffwrdd...". Defnyddiodd sêl y priordy hefyd i roi tir i ffwrdd ('hawliadau-ymadael') a chodi …'y priordy â dyledion amrywiol.'

Ar ôl i Ralph gael ei symud o'r diwedd, parhaodd gofidiau prior William. Ymosodwyd arno'n bersonol gan ddau ar bymtheg o Gymry ar ei dir ym Morburne (Moorbarn, ger Trefonnen). Carcharwyd ef gan y Cymry am saith diwrnod ac yna ei symud i gastell Brynbuga, lle cafodd ei ddal nes iddo dalu 100 marc (efallai £50,000 heddiw). rwbio halen yn y briw, fe wnaethant hefyd ddwyn ceffylau a gwartheg o diroedd y priordy ym Morburne, Trefonnen a Choldra.

Dilynodd trychinebau naturiol pellach yn 1324, pan achosodd stormydd lifogydd difrifol ar y Gwastadeddau, gan achosi cwymp sydyn mewn incwm.

Yn 1331, cyhuddwyd y prior Phillip de Gopylers, ynghyd â sawl un arall, o ddwyn gwin o longddrylliad oddi ar arfordir Allteuryn. Er na ddyfarnwyd Philip yn euog o'r cyhuddiad erioed, parhaodd yr anghydfod tan 1334.

Yn 1332, disodlodd y brenin y prior Phillip gyda mynach o Abaty Tintern, William Martel, a honnodd fod ganddo lythyrau penodiad gan y pab. Yn ddiweddarach, trodd y llythyrau hyn allan i fod yn ffug, ond yn ystod ei gyfnod byr o 11 mis fel prior, rhoddodd William diroedd y priordy yng Ngwlad yr Haf a Dyfnaint i Syr John Inge am daliad o un rhosyn coch y flwyddyn am y deng mlynedd gyntaf ac £20 wedi hynny. Ceisiodd y priordy adennill y tiroedd hyn, ond yn ddiweddarach fe wnaethant ddod a’r achos i ben a chael taliad o 100 marc gan Inge yn 1340.

Er i William Martel gael ei ddiswyddo fel prior, ac ailbenodwyd Phillip de Gopylers, roedd y difrod i'r priordy wedi ei wneud; mewn dim ond deugain mlynedd, roedd ei werth wedi gostwng o £164 ym 1291 i ddim ond £10 yn 1337.

Santes Fair, Allteuryn (C Harris)

Yn 1424, dinistriwyd rhan o adeilad y priordy gan lifogydd a stormydd difrifol, gan gynnwys eglwys y plwyf. Mae'r eglwys blwyf bresennol yn Allteuryn yn dyddio o tua'r cyfnod yma ac mae'n bosib ei bod wedi'i hadeiladu'n rhannol gyda cherrig a gymerwyd o'r priordy (mae rhannau o'r adeilad yn dyddio o'r 12fed ganrif ac mae'n bosib mai ysgubor oedd yn wreiddiol).

Erbyn 1442 roedd y priordy ei drechu a rhoddwyd ei asedau yn gyntaf i Abaty Tewkesbury ac yna i Goleg Eton, un o'r tirfeddianwyr mwyaf ar y Gwastadeddau tan yr 20fed ganrif. Erbyn 1467, peidiodd y priordy â bod. Pan gaeodd y drysau am y tro olaf, dim ond wyth mynach oedd ar ôl.

Ychydig iawn o olion sydd o’r priordy heddiw, er bod awyrluniau o 2010 yn dangos beth allai fod yn sylfeini adeiladau priordy o amgylch Hill Farm. Mae olion parhaol y priordy yn gorwedd yn nhirlun y Gwastadeddau o amgylch Allteuryn a Threfonnen, sy'n dal i ddilyn y patrwm cymhleth o gae a ffosydd a grëwyd gan y mynachod dros 600 mlynedd yn ôl.


Map 1595 yn dangos lleoliad Priordy Allteuryn (© British Library Board, Cotton Augustus I.ii, rhif etiem f.17