Cors Magwyr yw un o rannau olaf o gorstiroedd ar Wastadeddau Gwent, tirlun sydd wedi bodoli yma ers miloedd o flynyddoedd.
Mae gan y warchodfa gymysgedd amrywiol o gynefinoedd, gan gynnwys dolydd gwair llaith, corstir hesg, corslwynni, coetir gwlyb, prysgwydd, dŵr agored, a llawer o ffosydd llawn dŵr. Caiff lefelau dŵr eu cynnal gan ffynhonnau o dan y ddaear ac fe'u cedwir yn uchel trwy reoli'r rhewynau yn ofalus.
Mae'r nifer wahanol yma o gynefinoedd yn denu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt; cadwch lygad allan am y crëyr bach, glas y dorlan a thelor Cetti yn y pwll, gweision y neidr ar hyd y rhewynau a'r ffosydd, a gloÿnnod byw yn y dolydd.
Wrth i chi ddilyn y llwybr wrth ymyl y ffos, chwiliwch am arwyddion o lygod pengrwn y dŵr. Ailgyflwynwyd y mamal brodorol yma i'r warchodfa yn 2012/13, pan gafodd dros 200 eu rhyddhau. Y llygoden bengron y dŵr yw’r mamal sy'n dirywio cyflymaf yn y Derynas Unedig; y gobaith yw y gwelwn anifeiliaid a ryddheir yng Nghors Magwyr yn gwasgaru ar draws y Gwastadeddau gan ddefnyddio'r rhwydwaith o ffosydd cysylltiedig.
Cors Magwyr yw warchodfa natur gyntaf yr Ymddiriedolaeth, a brynwyd yn 1963.
Ymddiriedolaeth Natur Gwent sy'n berchen ac yn rheoli Cors Magwyr. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Gwarchodfeydd Natur Digidol
Mae Gwarchodfeydd Natur Digidol yn cynnig profiad hollol newydd o archwilio gwarchodfeydd GWT ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur personol.
Ewch i wefan GWT i ddechrau archwilio.
Gwefan y Warchodfa
Oriau agor
Ar agor bob amser.Sut i gyrraedd yno
Ar drafnidiaeth gyhoeddus
Ar feic
Yn y car
Map Trysor y Cof
Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof sy'n cynnwys gwybodaeth am beth i’w weld yno a gweithgareddau i helpu'ch dosbarth neu'ch teulu i ddysgu mwy am bob lle.
Man Bwysig i Weision y Neidr
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn un o rwydwaith cenedlaethol o fannau pwysig i weision y neidr.
Ewch i wefan BDS am fwy o wybodaeth.