Garanod (Andy Hay (rspb-images.com))
Ar ôl absenoldeb o tua 400 o flynyddoedd, mae garanod (Grus grus) yn nythu unwaith eto ar y Gwastadeddau.
Ar un adeg, roedd yr adar godidog hyn yn olygfa gyffredin mewn gwlyptiroedd ledled y DU. Yn anffodus, roeddent hefyd yn boblogaidd ar blatiau mewn gloddestau canoloesol; yn 1465, darparodd Archesgob Caerefrog 204 garan wedi rhostio. Yn y diwedd, o ganlyniad i hela â cholli eu cynefin ar wlyptiroedd, diflannodd y garanod yn gyfan gwbl yn ystod y 1600au.
Yn 1979, cafodd tri aderyn ymfudol eu chwythu oddi ar eu llwybr a chyrraedd Norfolk. Ers hynny, mae rhaglen ailgyflwyno lwyddiannus wedi codi’r niferoedd i tua 160 o adar.
Ar draws Aber Hafren ar Wastadeddau Gwlad yr Haf, rhyddhawyd 93 o aranod yng Ngwarchodfa Gorllewin Sedgemoor yr RSPB rhwng 2010 a 2014, fel rhan o’r Great Crane Project. Yn y pen draw, hedfanodd dau o'r adar hyn, o'r enw Lofty (gwryw) a Gibble (benyw) ar draws yr Afon Hafren. Yn 2016, magwyd y pâr cyw o'r enw Garan yn llwyddiannus, y garan cyntaf i’w eni ar y Gwastadeddau ers dros 400 o flynyddoedd.
Yn anffodus, er iddynt nythu a deor wyau yn llwyddiannus yn 2017 a 2018, ni oroesodd yr un o'r cywion. Gwelwyd Gibble eto ar y Gwastadeddau yn 2019 yng nghwmni gwryw gwahanol (o bosib Garan), ond nid yw Lofty wedi cael ei weld ers mis Hydref 2018 ac ystyrir bellach ei fod wedi ein gadael ni.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Mae gan aranod hanes maith ar Wastadeddau Gwent gan fynd yn ôl miloedd o flynyddoedd. Mae olion traed garanod, ynghyd ag adar dŵr eraill, wedi eu cadw yn y mwd ar y blaendraeth yn Allteuryn ac yn dyddio tua 5000 CC. Darganfuwyd esgyrn garanod wrth gloddio ffynnon Rufeinig yng Nghaerllion. Roedd marciau cigyddiaeth clir ar yr esgyrn hyn, a gwyddom fod garanod yn hoff bryd i Rufeiniaid cyfoethog. Darganfuwyd gemwaith jasper amuled coch bychain ym maddondai caer Caerllion sy’n ymddangos fod dyluniad o aran arno.
Cadwch lygad allan am aranod cyffredin o ddechrau'r gwanwyn hyd at ddiwedd yr haf. Mae'r adar yn llwyd, gyda phen du a gwyn a choron goch. Maent yn adar tal, yn sefyll rhwng 1 a 1.3m (3-4 troedfedd), gyda hyd adenydd o hyd at 2.4m (bron yn 8 troedfedd). Fel arfer, fe’u gwelir yn bwydo mewn caeau, lle maent yn bwyta hadau, gwreiddiau, pryfed, malwod a mwydod.
Mae garanod yn adnabyddus am eu dawnsio carwriaethol rhagorol, sy'n cynnwys siglo lan a lawr, ymgrymu a phirwétio, ynghyd ag amryw o alwadau nodedig. Er bod garanod yn paru a’i gilydd am nifer o flynyddoedd, maent yn dawnsio’r ddawns garwriaethol yma bob Gwanwyn.
Cofnodwch yr hyn a welsoch
Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld garan? Mae'n bwysig cofnodi'r bywyd gwyllt a welsoch gyda Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC), sy'n storio, rheoli a rhannu cofnodion bywyd gwyllt o bob cwr o'r rhanbarth. Cliciwch isod i ddarganfod sut i gofnodi.
Garan (Mike Langham, RSPB-images.com)