Carreg Allteuryn

Yn 1878, darganfuwyd carreg wedi'i arysgrifio o gyfnod Rhufeinig ger morglawdd Allteuryn, a elwir yn 'Carreg Allteuryn'.

Mae'r arysgrif ar y garreg galch bychan yn darllen "COH I, C STATORI, M...XIMI, P X...XIII S", sydd wedi'i gyfieithu fel "O'r fintai gyntaf o Statorius Maximus (adeiladwyd) 33 1/2 cam". Mae'n debygol ei fod yn cofnodi adeiladu naill ai rhan o forglawdd neu ffos ddraenio gan filwyr Rhufeinig o’r Fintai gyntaf o’r Ail Leng Awgwstaidd yng Nghaerllion, a arweinir gan Ganwriad Statorius Maximus.

Yn 43 OC, cafodd Prydain ei oresgyn gan y Rhufeiniaid. Erbyn 48 OC, roedd y llengoedd wedi cyrraedd ffin Cymru ac yn dechrau trechu’r llwythau Cymreig.

Yn 75 OC, ar ôl ymgyrch anodd, cafodd y llwyth blaenaf yn Ne Cymru, y Silures, eu gorchfygu gan y cadfridog Rhufeinig Julius Frontinus. Er mwyn cadarnhau eu rheolaeth ar y rhanbarth, fe adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yn Isca (Caerllion fodern), un o ddim ond tri gwersyll llengol parhaol ym Mhrydain. Roedd y gaer yn gartref i 5,000 o filwyr ac ynddo roedd baracs, gweithdai, ysguboriau, baddondai, harbwr ac amffitheatr fawr.

Y gaer oedd pencadlys yr 2il Leng Awgwstaidd ac fe'i defnyddiwyd am bron i 300 mlynedd, tan tua 375 OC, pan gafodd ei adael fel canolfan filwrol. Tua'r adeg hon, trosglwyddwyd y lleng i Richborough yng Nghaint i amddiffyn yr arfordir rhag ysbeilwyr Sacsonaidd.

Ar ryw adeg o gwmpas 100 OC, dechreuodd y Rhufeiniaid amgáu a draenio'r Gwastadeddau, yn debygol er mwyn creu cynefin i alluogi gwartheg a’u ceffylau i bori drwy'r flwyddyn ar y glaswelltiroedd gwlyb, ffrwythlon. Adeiladodd peirianwyr milwrol Rhufeinig argloddiau ar hyd ymylon traethau, gan gysylltu ardaloedd o dir uwch, a chreu rhwydwaith o ffosydd i ddraenio'r tir. Ar yr adeg hon, mae'n debyg mai cyfres o argloddiau isel oedd y morglawdd yn amddiffyn rhannau o'r Gwastadeddau, yn hytrach nag un strwythur parhaus (roedd lefelau'r môr ar yr adeg hon tua 1.5m yn is nag y mae heddiw).

Arferiad cyffredin oedd i filwyr Rhufeinig gofnodi eu hymdrechion adeiladu trwy arysgrifio carreg a elwir yn faen canwriadol a fyddai'n cael ei osod wrth ymyl (neu yn yr achos o adeilad, o fewn) eu hadeiladau. Credir bod Carreg Allteuryn yn dyddio o ddiwedd yr 2il neu ddechrau'r 3ydd ganrif.


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am y Rhufeiniaid yn ne Cymru, ac i weld atgynhyrchiad o Garreg Allteuryn, ewch i Amgueddfa Casnewydd.

Am fwy o wybodaeth am Gaerllion a’r gaer Rufeinig, ewch i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru .

Am fwy o wybodaeth am Garreg Allteuryn ewch i Arysgrifau Rhufeinig Prydain.


Cohortis I
Cenuria Statori
Maximi
Passus XXXIII Semis

- Arysgrif Carreg Allteuryn