Castell Cil-y-Coed

Mae Castell godidog Cil-y-Coed wedi bod yn sefyll a gwarchod y Gwastadeddau ers dros 800 mlynedd.

Mae'r olion sydd i’w gweld heddiw yn dyddio o'r 13eg a'r 14eg ganrif, er i'r castell mwnt a beili cynharaf o bridd a phren gael ei adeiladu yn fuan ar ôl i'r Normaniaid oresgyn De Cymru yn yr 11eg ganrif i reoli Afon Nedern, a oedd unwaith yn fordwyol sawl milltir i'r mewndir.

Yn 1221, dechreuodd Humphrey de Bohun, Iarll Henffordd, adeiladu'r castell cerrig. Arhosodd y castell yn nheulu de Bohun am y 150 mlynedd nesaf, gan basio yn y pen draw trwy briodas i Thomas, Dug Caerloyw, mab Edward III. Adeiladodd ef y porthdy enfawr, Tŵr Woodstock a'r Giât Cilddor. Daeth diwedd trist i Thomas ar ôl iddo ffraeo â’r Brenin Rhisiart II. Cafodd ei arestio am fradwriaeth a’i garcharu yn Calais lle cafodd ei lofruddio wrth aros am ei achos llys.

Yn dilyn Rhyfel Cartref Lloegr yn y 1640au, cafodd y castell ei ddifrodi a’i adael yn adfail. 

Cafodd y castell ei achub rhag dinistr yn 1855 gan gyfreithiwr cyfoethog a hynafiaethydd Mr J.R. Cobb, a ailadeiladodd rannau o'r castell fel ei gartref teuluol. Yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, pan oedd prinder tai cost-isel, cafodd tyrau'r castell eu haddasu i fflatiau a'u rhentu i deuluoedd lleol. Yn 1963 prynwyd y castell gan y Cyngor Dosbarth am £12,000 ac mae bellach ar agor i'r cyhoedd.


Mwy o Wybodaeth

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Gastell Cil-y-Coed.

Archwiliwch y castell a'r parc gwledig, neu dilynwch daith gylch i Sudbrook, Y Garreg Ddu a Phorthsgiwed.


Castell Cil-y-coed,
Heol yr Eglwys, Cil-y-coed NP26 4HU
Cyfeirnod Grid OS: ST 487 885

Gwefan y Castell

Oriau agor

Castell: Dydd Mawrth - Dydd Sul (11am-4pm).
Parc Gwledig: 8:30am – 8:30pm bob dydd.
Mynediad **AM DDIM**

Sut i gyrraedd yno:

Ar drafnidiaeth gyhoeddus

Google maps

Ar feic

Google maps

Yn y car

Google maps