Yn 1531, pasiodd y brenin Harri VIII y Ddeddf Carthffosydd, gan greu Comisiynwyr a Llysoedd Carthffosydd i oruchwylio'r gwaith o reoli corstiroedd arfordirol, tir amaethyddol cynhyrchiol ond yn dueddol o gael llifogydd.
Roedd y Llysoedd yn gyfrifol am gynnal amddiffynfeydd môr a draenio ardaloedd isel ac roeddent yn cynnwys 'boneddigion' y sir, yn aml ynadon heddwch, a enwyd yn Gomisiynwyr. Gwnaed tirfeddianwyr unigol yn gyfrifol am gynnal amddiffynfeydd môr a ffosydd draenio, a’u gorfodi gan y Llysoedd i wneud y gwaith.
Roedd dau lys ar wahân ar gyfer Morfa Gwent a Gwastadeddau Gwynllŵg, er bod y gweithredoedd yn cael eu cadw yn yr un llyfr. Rhedodd comisiynau am 10 mlynedd, ac ar ôl hynny gwnaed deiseb i'r Goron am Gomisiwn newydd.
Roedd y Llys ar waith am y 300 mlynedd nesaf nes diddymwyd Deddf Carthffosydd yn 1930 gan y Senedd a'i ddisodli gan Ddeddf Draenio Tir. Cafodd y Llys ei ddisodli yn 1942 gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-Coed a Gwastadeddau Gwynllŵg.
Yn 2015, aeth y cyfrifoldeb i reoli'r Lefelau i Gyfoeth Naturiol Cymru, gan ddod i ben â 400 mlynedd o reolaeth leol ar y Gwastadeddau.
Mapiau Comisiynwyr Carthffosydd
Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, gan gofnodi ffiniau caeau, draenio ac amddiffynfeydd môr. Yna defnyddiwyd hyn i sefydlu cyfrifoldebau am gynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Cynhyrchwyd dau lyfr o fapiau, un ar gyfer Morfa Gwent ac un ar gyfer Gwastadeddau Gwynllŵg. Roedd y gwaith yn costio tua £440 (£27,000 yn 2018). Mae'r mapiau hardd yma bellach wedi'u cadw yn Archifau Gwent. Wrth eu gosod ar ben mapiau AO modern neu luniau o'r awyr, mae yna gryn dipyn o gydymffurfiaeth.
Symudwch y llithrydd i gymharu map modern yr OS (chwith) a map 1830 (dde):
© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Trwydded RSPB 100021787, Rhif Trwydded RSPB: 60271.
Map Comisiynydd Carthffosydd i Drefonnen (1830)