Aderyn y bwn yw un o'n hadar corstir mwyaf prin a dirgel.
Yn aelod o deulu'r crëyr glas, mae ei blu golau, gwelw, melynfrown wedi'i orchuddio â streipiau a bariau tywyll, sy'n golygu ei fod yn cuddliwio'n dda iawn. Felly mae'n hawdd esgeuluso’r aderyn swil, dirgel hwn wrth iddo symud yn dawel trwy gyrs ar ymyl y dŵr, neu sefyll yn stond am gyfnodau hir, wrth chwilio am bysgod, amffibiaid neu bryfed.
Yn y gwanwyn, mae gwrywod yn gwneud sŵn “bŵm” rhyfeddol sydd i’w glywed o bell i ddenu cymar. Galwad y gwryw yw'r uchaf o unrhyw aderyn yn y DU a gall gario hyd at 3 milltir. Mae pob gwryw yn gwneud galwad hollol wahanol, felly gellir eu defnyddio i amcangyfrif niferoedd.
Mewn canrifoedd blaenorol, roedd adar y bwn yn cael eu hela am fwyd ac yn ffefryn i gasglwyr wyau Fictoraidd a thacsidermwyr; mae gan amgueddfa Casnewydd nifer o’r adar hyn wedi'u stwffio a gafwyd eu saethu gan yr Arglwydd Tredegar. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd adar y bwn wedi diflannu fel adar bridio yn y DU.
Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, fe welwyd adfywiad yn yr adar, ond erbyn 1997 dim ond 11 o wrywod a gofnodwyd ac roedd yr aderyn hardd hwn mewn perygl o ddiflannu unwaith eto o'r DU.
Diolch i waith caled cadwraethwyr, dechreuodd y niferoedd wella'n raddol ac erbyn 2017 amcangyfrifwyd mwy na 160 o wrywod.
Yn 2019, ar ôl absenoldeb o dros 200 mlynedd, gwelwyd adar y bwn yn bridio ar Wastadeddau Gwent unwaith eto. Llwyddodd cywion i adael dwy nyth wahanol yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, gan wneud y rhain yr adar y bwn bridio cyntaf a gofnodwyd yn ne-ddwyrain Cymru. Cofnodwyd adar yn bwydo ymhellach ar hyd yr arfordir yn y Redwig hefyd, sy'n amlygu pwysigrwydd tirlun y Gwastadeddau yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â gwarchodfeydd natur, i'r adar godidog hyn.
Yn 2023, amcangyfrifwyd bod pedwar oedolyn ar y warchodfa. Rhyngddynt roeddent wedi llwyddo i fagu 12 o gywion dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Credir bod 234 o Adar y Bwn gwrywaidd yn genedlaethol.
Ewch i Wlyptiroedd Casnewydd ddechrau'r gwanwyn i gael cyfle i weld neu glywed yr adar rhyfeddol hyn.
Aderyn y Bwn (Ben Andrews, RSPB-images.com)
Cofnodwch yr hyn a welsoch
Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld aderyn y bwn? Mae'n bwysig cofnodi'r bywyd gwyllt a welsoch gyda Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC), sy'n storio, rheoli a rhannu cofnodion bywyd gwyllt o bob cwr o'r rhanbarth. Cliciwch isod i ddarganfod sut i gofnodi.
Aderyn (Andy Hay, RSPB-images.com)
Oeddech chi'n gwybod?
Ar un adeg roedd adar y bwn yn gyffredin ledled y wlad, ac mae hyn wedi rhoi hwb i ystod eang o enwau lleol lliwgar, fel bwm y gors, bwmp y gors, tabwrdd y baw, crëyr brych a buddair.