Croesi'r Hafren

Mae pobl wedi bod yn croesi Aber Hafren ers miloedd o flynyddoedd. Hyd nes datblygu ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi o safon, yn aml dyma'r ffordd gyflymaf o gludo pobl, anifeiliaid a nwyddau dros gryn bellter.

Darn arian Rhufeinig a ddarganfuwyd yn Y Garreg Ddu, Casgliad y Werin Cymru

Tan yn ddiweddar, roedd hefyd yn beth peryglus iawn i'w wneud. Mae gan yr aber un o'r ystodau llanw uchaf yn y byd, ceryntau cyflym, creigiau peryglus a chreigiog, a glannau tywod symudol. Mae yna lawer o longddrylliadau yma ac acw ar hyd yr arfordir sy'n tystio i'r perygl hwn. Credir bod y nifer fawr o ddarnau arian Rhufeinig a ddarganfuwyd ar hyd yr arfordir mewn mannau croesi hynafol yn offrymau i'r duwiau gan deithwyr Rhufeinig fel diolch am daith ddiogel.

Cofnodwyd y gwasanaeth fferi reolaidd gynharaf yn 1131, rhwng Aust a Beachley. Fe’i defnyddiwyd gan y mynachod yn Abaty Tyndyrn ac yn aml fe’i gelwir yn ‘Old Passage’, er mewn gwirionedd, gall y groesfan yng Ngharreg Ddu, a elwir y ‘New Passage’, fod yn hŷn! Roedd y ddwy groesfan fferi yma’n beryglus; byddai teithwyr yn y 18fed ganrif yn aml yn dewis y daith hirach ar draws y tir trwy Gaerloyw yn hytrach na mentro ar y fferi.

Yn 1864, agorodd Rheilffordd Undeb Bryste a De Cymru wasanaeth rheilffordd a fferi stêm newydd yng Ngharreg Ddu. Dyluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel (a fu farw yn 1859), adeiladwyd dau bier yn New Passage ar ochr Lloegr o’r Afon Hafren, a Phorthsgiwed ar ochr Cymru. Byddai trenau yn aros ar bier lle disgynnai’r teithwyr oddi arnynt ac i mewn i fferi stêm. Aeth y fferi â nhw ar draws yr aber i’r pier gyferbyn, lle byddai trên yn eu disgwyl i’w cludo i’w cyrchfan. Lleihawyd rheilffordd fferi stêm y pellter teithio o Gaerdydd i Fryste o 94 milltir (trwy Gaerloyw) i 38 milltir yn unig. Gallwch weld seiliau brics y pier yng Ngharreg Ddu o hyd yn ystod llanw isel.

Roedd agor y twnnel ar gyfer gwasanaethau i deithwyr rheolaidd ar 1af o Ragfyr 1886 yn nodi diwedd rheilffordd fferi stêm unigryw Brunel, a digwyddodd y croesiad olaf gan y paced stêm y noson flaenorol. Cymerodd y twnnel 7 cilomedr o hyd 14 mlynedd i'w adeiladu a chostio bron i £2 filiwn (tua £148 miliwn heddiw). Am y tro cyntaf, gallai teithwyr groesi'r aber heb boeni am y llanw na'r tywydd, a gallai glo o Dde Cymru gael ei anfon yn gyflym i farchnadoedd Lloegr.

Cynlluniwyd y fenter enfawr yma gan y peiriannydd sifil Charles Richardson, a adeiladodd y ddau bier yn New Passage a Phorthsgiwed hefyd. Fe'i penodwyd yn Brif Beiriannydd ar y prosiect pan ddechreuodd y gwaith yn 1873, ynghyd â John Hawkshaw fel Peiriannydd Ymgynghorol.

Ar ôl chwe blynedd dim ond 138 llath oedd ar ôl i'w gloddio pan ddigwyddodd trychineb enbyd. Ar 18fed o Hydref 1879, tarodd gweithwyr ffynnon dŵr croyw oedd yn llifo o dan afon Hafren a gorlifodd y twnnel. Byddai'n cymryd dwy flynedd ac ymdrech sylweddol, gan gynnwys y defnydd arloesol o offer deifio sgwba, cyn i’r ffynnon fod dan reolaeth ac y gallai'r gwaith barhau.

Thomas A. Walker mewn ysgythriad gan George J. Stodart

Ar ôl y ddamwain, penodwyd Hawkshaw yn Brif Beiriannydd a chyflogwyd Thomas A Walker fel y prif gontractwr newydd. Ystyriwyd Walker yn gyflogwr rhagorol a datblygodd bentref Sudbrook ar gyfer ei weithwyr, gan adeiladu tai, swyddfa bost, neuadd genhadol ac ysbyty. Ar ôl cwblhau'r twnnel, cychwynnodd Walker fusnes adeiladu llongau yn Sudbrook, gan gyflogi llawer o'r rhai a oedd wedi gweithio ar y twnnel, a weithredodd hyd at 1926.

Newidiodd trafnidiaeth yn yr 20fed ganrif gyda dyfodiad y car modur. Gallai gyrwyr a oedd yn dymuno croesi'r Hafren naill ai ddefnyddio'r fferi ceir ar yr Old Passage, rhwng Aust a Beachley, neu ddefnyddio'r gwasanaeth trên gwennol ar gyfer ceir trwy'r twnnel. Gweithredodd y ddau yma rhwng 1926 a 1966, pan agorodd Pont Hafren i draffig.

Cynigiwyd pont rhwng Aust a Chas-gwent yn gyntaf yn 1824 gan Thomas Telford, ond dechreuwyd adeiladu'r bont fodern yn 1961. Cymerodd dair blynedd i'w chwblhau ar gost o £8 miliwn. Ar y pryd, roedd cynllun aerodynamig dec y bont yn chwyldroadol ac ers hynny fe'i defnyddiwyd ar lawer o bontydd hir y byd. Mae rhan o'r bont bellach yn strwythur rhestredig Gradd I.

Dechreuwyd adeiladu Ail Groesfan Hafren yn 1992 a chymerodd bedair blynedd i'w chwblhau. Yn ei chyfanrwydd, mae dros 5 cilomedr o hyd ac gyda thua 60,000 o gerbydau yn gyrru drosti y dydd. Mae Twnnel Hafren yn pasio 500m i fyny'r afon o'r bont, ond yn croesi o dan y bont ar ochr Lloegr. Roedd yn rhaid lleoli'r cesonau enfawr 1600 tunnell sy'n cynnal y rhan hon o'r bont yn ofalus iawn. Cafodd cyfarwyddwr y prosiect, Norman Haste, ysbrydoliaeth gan Thomas Walker ac mae'r gwaith o adeiladu'r twnnel a’r bont wedi ennill sawl gwobr diwydiant.

Yn wahanol i’n cyndeidiau, a wynebwyd croesiadau peryglus, gall teithwyr heddiw teithio’n gyflym ar draws Aber Hafren mewn munudau, ar y trên trwy Dwnnel Hafren neu dros un o’r pontydd, pob un yn rhyfeddod peirianyddol.

Ail Groesfan Hafren (Pont Tywysog Cymru)


Cerdyn post yn dangos agoriad Pier New Passage, 1864.

Sylfeini pier yng Ngharreg Ddu, i'w gweld ar lanw isel.

Croesfan beryglus

Portread 1755 gan Olof Arenius

Roedd Reinhold Rücker Angerstein yn ysbïwr diwydiannol o'r ddeunawfed ganrif. Cafodd ei dalu gan lywodraeth Sweden i deithio o amgylch Ewrop yn ystod y 1750au yn casglu gwybodaeth am brosesau diwydiannol a thechnoleg newydd. Cofnododd ei deithiau mewn dyddiaduron manwl ac yn 1754 croesodd Aber Afon Hafren, trwy'r New Passage, i Gymru, gan lanio yn nherfynfa fferi'r Garreg Ddu.

Darllen mwy...

25ain o Fehefin 1754

‘On my arrival at the Severn, I met a number of travelers who were waiting for passage, but the ship could not sail due to the winds that had lasted for two days and still kept the waves surging. There was also a Lodge of Freemasons from Bristol, who had assembled to celebrate the day in the traditional way. Before long, I was introduced to this worthy and amusing company, which made the day short and pleasant in this otherwise dull and lonely place.

On 25th June wind and rain that made themselves heard throughout the night did not hold out any promise of a speedy and safe passage. However, towards dinnertime, when the tide had started to flow out against the wind and waves, the captain decided to take the risk. More than 20 horses and an even greater number of passengers, as many as there was room for, were crammed into the ship. Another ship, belonging to the opposite side, had to return empty, as it was not allowed to take cargo or passengers from our side.

The horses were so unruly during the crossing that it seemed that the ship would fly apart. This caused her to spring a leak and the waves washed over her. Passengers screamed and wailed, the sailors were hampered by the overcrowding, quite at a loss as to what to do, and complete confusion reigned. We all expected catastrophe at any moment. This fear continued until we approached land and could with great joy jump onto the rocks to dispel the anxiety that had filled us all with consternation.

Having arrived at the other side of the water at the ferry station, which was in Wales, an old man showed me how the waves eat into terra firma, and told me that in his youth he had cut corn in a place that now is a rock 10 feet out in the water.

O Ddyddiadur Reinhold Angerstein, Ysbïwr Diwydiannol o Sweden

Gallwch ddarllen dyddiadur Reinhold ar Google Books.