Mapiau Trysor y Cof
Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof sy'n cynnwys gwybodaeth am beth i’w weld yno a gweithgareddau i helpu'ch dosbarth neu'ch teulu i ddysgu mwy am bob lle. Mae'r mapiau hefyd ar gael fel lluniau unigol gyda thaflen atebion ar gyfer y cwestiynau a’r gweithgareddau.
Mae adnoddau Helfa Drysor y Cof ar waelod y dudalen hon yn cynnwys gweithgareddau ysgrifennu neu dynnu llun i allu cysylltu pob saith lleoliad â’i gilydd.
Cliciwch y delweddau isod i lawrlwytho fersiynau PDF o'r taflenni:
Anturiaethau dysgu
Mae'r fideos canlynol yn esbonio sut i ddefnyddio Mapiau Trysor y Cof yn Nhŷ Tredegar, Y Garreg Ddu, Cors Magwyr a Pharc Tredelerch. Mae'r fideos hyn yn Saesneg yn unig.
Helfa Drysor y Cof
Mae Gwastadeddau Gwent yn llawn trysorau, ac wrth i chi archwilio'r 7 safle hyfryd hyn, gallwch gasglu atgofion o'ch ymweliadau.
Lawrlwythwch gopi o'r daflen Helfa Drysor y Cof. Wrth i chi ymweld â phob safle dewiswch un trysor y cof a'i gofnodi yn y lleoedd priodol ar y daflen.