Adnoddau Dysgu Lefelau Byw

Crëwyd yr adnoddau dysgu unigryw hyn ar gyfer athrawon sydd yn gweithio gyda disgyblion cynradd ac uwchradd.

Mae'r wybodaeth a'r gweithgareddau yn rhoi'r cyd-destun a’r wybodaeth sydd ei angen arnoch i addysgu plant am eu hardal leol, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored.

Cliciwch ar y lluniau isod i lawrlwytho fersiynau PDF o’r adnoddau dysgu:

Nodwch, cafodd y fersiynau hyn eu diweddaru yn 2020.

Sut mae’r adnoddau wedi eu cynllunio i mi?

Mae’r adnoddau wedi eu rhannu i chwe rhan yn seiliedig ar gwestiwn a themâu chwilfrydig. Mae tudalen gyntaf pob rhan yn rhoi cipolwg i chi o’r cynnwys.

O fewn pob rhan, ceir adrannau sy’n cwmpasu gwahanol agweddau’r cwestiwn. Fe welwch wybodaeth a chefndir manwl ar gyfer pob cwestiwn gydag awgrymiadau i ddilyn megis gweithgareddau i'w gwneud a llefydd i fynd, gwefan gysylltiedig â llyfrau i'w darllen. Ar ddiwedd pob rhan, ceir lun mawr i chi ei ddadansoddi a'i drafod gyda'ch dosbarth.

 

Y chwe chwestiwn chwilfrydig yw:

  1. Rhan 1 - Sut mae tirlun Gwastadeddau Gwent wedi newid dros amser?

  2. Rhan 2 - Sut mae dŵr ar Wastadeddau Gwent yn effeithio ar ein bywydau?

  3. Rhan 3 - Bywyd Gwyllt ar Wastadeddau Gwent - Sut allwn ni ei fwynhau a'i ddiogelu?

  4. Rhan 4 - Beth sy'n gorwedd islaw'r dŵr y tu hwnt i'r morglawdd?

  5. Rhan 5 - Sut y defnyddiwyd Gwastadeddau Gwent i gynhyrchu bwyd?

  6. Rhan 6 - Sut mae pobl, ddoe a heddiw, wedi symud o gwmpas Gwastadeddau Gwent?

 

Mapiau Trysor y Cof

Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof


Her Ymosodiad Estron

Ydych chi'n chwilio am weithgareddau heriol i'ch dysgwyr? Yna does dim rhaid i chi edrych ymhellach na Her Ymosodiad Estron!


Adnoddau ychwanegol

Cyfeirir yn benodol at yr hanesion llafar a'r lawrlwythiadau isod yn rhan chwech yr adnodd dysgu ac i chi eu defnyddio ochr yn ochr â gweithgareddau a awgrymir.

Hanesion llafar

Am fwy o hanesion llafar, ewch i'n tudalennau Bywyd ar y Lefelau.


Cyflwyniad Powerpoint

(Saesneg yn unig)