Fforwm Mynediad Dinas Casnewydd

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn y broses o geisio enwebiadau gan aelodau'r cyhoedd ar gyfer aelodaeth o Fforwm Mynediad Lleol Dinas Casnewydd.

Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori'r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill sy’n ymarfer swyddogaethau dan Ran I Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, o ran gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhad o’r ardal.  Rhaid i'r cyrff hyn, yn ôl y gyfraith, roi sylw i gyngor perthnasol a roddir gan y Fforwm. 

Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r Fforwm gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn a gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.

Meysydd gwaith

Bydd y fforwm yn rhan o'r adolygiad o Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy ar draws Dinas Casnewydd.  Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut y bydd yr Awdurdod Lleol yn rheoli ac yn gwella'r rhwydweithiau Hawliau Tramwy Cyhoeddus dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y Fforwm yn gweithio gyda thimau Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ac yn helpu i gynghori swyddogion i sicrhau bod gwaith a wneir o fudd i bob defnyddiwr ar gyfer ymarfer corff iach a lles meddyliol, rheolaeth well ar y rhwydwaith ac y caiff strategaethau a nodau allweddol eu cyflawni. 

Bydd y Fforwm yn ystyried pob math o fynediad, gan gynnwys marchogaeth, beicio a gyrru oddi ar y ffordd, nid mynediad ar droed yn unig. Y FfMLl ei hyn fydd yn penderfynu ar union natur y gwaith hwn ar sail y strategaethau allweddol a'r nodau allweddol sy’n cyd-fynd â CGHT mewn cytundeb â'r awdurdod lleol.

Meini prawf dethol

Mae'r canlynol yn rhestr o feini prawf a ddefnyddir ar gyfer dewis ceisiadau. Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â'r holl feini prawf o reidrwydd i fod yn llwyddiannus. 

Mae’n hanfodol bod aelod o’r FfMLl yn:

  • Ymrwymo i swyddogaeth y Fforwm:
    swyddogaeth y Fforwm fydd cynghori'r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhad o’r ardal; 

  • Bod yn barod ac yn gallu chwarae rhan lawn ym mhob agwedd ar waith y FfMLl? Efallai na fydd unigolion sydd ond yn barod neu'n gallu cynrychioli buddiant penodol cyfyngedig yn aelodau addas.

Mae’r canlynol yn ddymunol gan aelod o FfMLi:

  • Bod ag ystod eang o brofiadau o faterion mynediad yn yr ardal;

  • Bod â phrofiad o weithio ar fforymau tebyg yn y gorffennol, a chyfrannu atynt;

  • Preswylio yn, a bod yn arbennig o gyfarwydd â, neu fod ag unrhyw fuddiannau eraill sy'n arbennig o berthnasol i Gasnewydd.

  • Gallu rhwydweithio gydag ystod eang o sefydliadau ac unigolion, gyda'r nod o ledaenu gwaith y FfMLl;

  • Gallu mynychu cyfarfodydd y Fforwm, a gynhelir yng Nghasnewydd.  Ni ellir caniatáu dirprwyon

  • Rhoddir ystyriaeth ffafriol i ymgeiswyr sy'n cynrychioli anghenion ieuenctid, symudedd a/neu synhwyraidd a/neu grwpiau ethnig.

Mae’r swyddi hyn yn rhai di-dâl ond bydd aelodau’r Fforwm yn gallu hawlio treuliau rhesymol.

Ceisiadau

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer aelodaeth, llenwch y ffurflen gais a'i dychwelyd ar e-bost i mike.johnson@newport.gov.uk neu ei phostio i:

Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Dinas Casnewydd
Canolfan Ddinesig, Godfrey Road
Casnewydd NP20 4UR