Rhufeiniaid Rhyfeddol a Mynachod Mwdlyd!

IMG_5298.jpg

'Dyw'r tywydd ddim wedi bod yn garedig iawn i ni dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Rydyn ni wedi cael diwrnodau gwyntog a glawiog iawn a dyna oedd yn ein disgwyl ni ar ddydd Sadwrn, 28ain o Fedi yn Nhŷ Tredegar o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ffodus, ni wnaeth hyn atal cannoedd o bobl rhag mynychu ein hail Ddiwrnod Hanes Gwastadeddau Gwent blynyddol, ‘Rhufeiniaid Rhyfeddol a Mynachod Mwdlyd’.

Y syniad y tu ôl i'r digwyddiad oedd cynnig cyfle i bob math o bobl i ddysgu mwy am Wastadeddau Gwent, o deuluoedd i haneswyr selog. Mae hanes y dirwedd hon yn rhyfeddol. Ymhell cyn i fodau dynol droedio'r tir hwn, roedd y gwastadedd arfordirol isel hwn yn gartref i ddeinosoriaid. Dros y cyfnodau canlynol, profodd yr ardal stormydd enfawr ac oesoedd iâ. Yn ystod yr oes Fesolithig, dechreuodd bodau dynol siapio'r ardal, wrth i helwyr-gasglwyr grwydro'r tir yn chwilio am fwyd. Gadawodd y Rhufeiniaid eu hôl gyda’u system gymhleth o ffosydd a adferwyd yn ddiweddarach gan fynachod mwdlyd canoloesol. Ers hynny, mae pobl wedi ffermio a chreu bywoliaeth iddyn nhw'u hunain ar y Gwastadeddau hyd at heddiw.

Roedd y gorffennol anhygoel hwn i'w weld i gyd yn ystod y digwyddiad, a chafodd dros 600 o bobl gyfle i weld rhai o'r gweddillion hynafol, yr arteffactau a'r darganfyddiadau archeolegol sy'n ein helpu i ddeall mwy am hanes yr ardal. Yn ystod y diwrnod cafwyd ailgreadau o sgarmesau milwyr Rhufeinig a phrofodd frwydr rhyngddynt â deinosor t-rex enfawr yn boblogaidd iawn!

IMG_5360.jpg

Cynhaliwyd y digwyddiad ochr yn ochr â marchnad Bwyd a Chrefft Cotyledon, ac roeddem yn ffodus i gael cwmni sawl grŵp lleol diddorol, pob un yn arbenigwyr yn eu maes. Rhannodd gwirfoddolwyr y prosiect RATS (llysenw'r Research and Transcription Service) yr hyn maen nhw wedi darganfod trwy'r prosiectau ‘Ail-afael yn y Dirwedd Hanesyddol’ a'r ‘Dilyw Mawr-1607’. Hefyd, rhoddwyd ychydig o gefndir ar hanes mwy diweddar y cymunedau sy'n byw ar y Gwastadeddau gan dimau Prosiect Hanes Llafar ‘Bywyd ar y Gwasteddau’ a Grŵp Hanes y Redwig.

Ymhlith yr arddangoswyr eraill oedd Archifau Gwent, Cymdeithas y Cwrwgl, Partneriaeth Aber yr Hafren, Pysgodfa Rhwydi Black Rock Lave, Amgueddfa Caerllion, Dig Ventures Archaeology, Pont Gludo Casnewydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Casnewydd a Llong Ganoloesol Casnewydd. Mae'r rhestr hir hon o sefydliadau a chymdeithasau yn profi'r cyfoeth a'r amrywiaeth o hanes sydd gan Wastadeddau Gwent i'w gynnig i weddill y wlad.

Roedd yn ddigwyddiad bendigedig gyda digon i'w wneud a'i weld i'r teulu cyfan. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth yno, yn ogystal â'r arddangoswyr a phawb a rannodd eu gwybodaeth werthfawr o'r dirwedd unigryw hon ... a diolch yn arbennig i'n partner, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am gynnal y digwyddiad yn Nhŷ Tredegar.

Mae gennym ni ddigonedd o ddigwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli i ddod dros y gaeaf hefyd. Ewch yma i ddarganfod mwy.

 

 

Dadorchuddio hanes hynafol Gwastadeddau Gwent

Mae pobl wedi byw ar Wastadeddau Gwent ers sawl mileniwm. Fe grwydrodd helwyr-gasglwyr y gwastadedd arfordirol yn ystod y cyfnod Mesolithig, bu i’r Rhufeiniaid adael eu holion yn ystod eu meddiant nhw, ac yn yr Oesoedd Canol fe adeiladwyd llawer o gestyll a ffosydd, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi diflannu mwy neu lai. Mae pobl wedi bod yma ers amser maith, a dros y blynyddoedd maent wedi siapio’r dirwedd mewn sawl ffordd.

Dros y degawdau diwethaf, mae’r ardal wedi dod o hyd i ddarganfyddiadau archeolegol anhygoel, o olion traed 6000 oed a marciau meysydd hanesyddol, i weddillion cwch o’r 13eg ganrif.  I gael mwy o wybodaeth amdanynt, rydym wedi trefnu wythnos yn llawn o weithgareddau a sgyrsiau archeolegol ym mhentref y Redwig. Yn ystod yr wythnos, bydd cyfle i bobl roi cynnig ar rai o’r technegau a ddefnyddiwyd i ddysgu mwy am y gorffennol a chyfle i bobl leol a’r gymdeithas ehangach wirfoddoli a chymryd rhan.

 

Archwilio'r Gwastadeddau

Dechreuon ni gyda sesiwn a oedd yn archwilio’r byd o fapio digidol. Weithiau, i ddysgu mwy am hanes yr henfyd, mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r technolegau a’r technegau mwyaf newydd ac arloesol. Aethom ati i archwilio sut mae mapio digidol yn cael ei ddefnyddio i ganfod safleoedd hynafol, a sut mae laseri a synwyryddion (LiDAR) yn cael eu defnyddio i greu mapiau 3D cymhleth ac addysgiadol. Bydd Gwastadeddau Byw yn peiriannu ac yn cynhyrchu map digidol rhyngweithiol cyhoeddus GIS, a fydd yn cynnwys treftadaeth y gwastadeddau, ac yn cael ei lansio yn nes ymlaen yn y prosiect.

Buom ar ddau arolwg i archwilio caeau lleol y Redwig. Mae’r cannoedd o gaeau sy’n creu Gwastadeddau Gwent wedi’u siapio gan waith llaw ers nifer o flynyddoedd. Cafodd y dirwedd ei chreu yn wreiddiol gan y Rhufeiniaid, drwy ddraenio’r tir gyda rhwydwaith o ffosydd a rhewynau. Fe wnaethant hyn gan fod Gwastadeddau Gwent yn is na lefel y môr. Felly, drwy greu’r rhwydwaith draenio, roedd y tir yn fwy addas ar gyfer ffermio. Mae rhywfaint o’u hoffer hynafol a thystiolaeth o’u gwaith yn dal i’w gweld hyd heddiw. Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr arolygon yn cael ei ddefnyddio ar ein map digidol ar-lein, sy’n amlygu potensial archeolegol y Gwastadeddau.

Ymunodd Jessica Morden AS â ni ar gyfer sesiwn i archwilio blaendraeth Aber Afon Hafren. Efallai fod y rhynglanw a’r traethellau yn llithrig a gwlyb, ond gallai fod yn drysorfa ar gyfer canfyddiadau archeolegol. Gydag arweiniad yr Athro Martin Bell, fe wnaethom sylweddoli fod blaendraeth y Redwig yn cael ei amlygu yn ystod llanw isel. Mae llawer o arteffactau wedi’u canfod yma dros y blynyddoedd gan eu bod wedi’u diogelu yn y mwd, gan gynnwys llu o anheddau o’r Oes Efydd yn y Redwig.

Mae gan Wastadeddau Gwent amrywiaeth arbennig o hen adeiladau unigryw hefyd. Enghraifft dda yw Eglwys St Thomas, yn y Redwig, sy’n enwog am ei dyluniad anarferol. Aethom ar daith dywys i archwilio, dogfennu a nodi rhai o’r strwythurau hyn. Bydd ein canfyddiadau’n cael eu cynnwys ar y map ar-lein o Wastadeddau Gwent hefyd.

Fe ddechreuon ni’r wythnos drwy archwilio Gwastadeddau Gwent gan ddefnyddio technoleg fodern, ond fe wnaethom orffen yr wythnos gyda dau ddigwyddiad a ddaeth â ni’n ôl i’r hanfodion. Ar 3-4 Awst, fe wnaethom ni’r gwaith caib a rhaw o gynnal tyllau prawf, sydd yn ei hanfod yn waith cloddio bychain ar raddfa 1m2 x1m2 i chwilio am arteffactau ac eitemau hynafol. Efallai fod mapio digidol yn ffordd wych o archwilio’r ardal am wrthrychau ac arteffactau diddorol, ond weithiau hen dechnegau sy’n gweithio orau! Fe wnaethom ganfod crochenwaith 250 oed, a les bobin o’r twll prawf tu ôl i’r hen dŷ tlawd.


Digwyddiadau yn y dyfodol

Yn dilyn y llwyddiant yn y Redwig, rydym ni’n bwriadu cynnal sesiwn blasu archaeoleg am wythnos eto flwyddyn nesaf, felly cadwch lygad am ein gweithgareddau archeoleg sydd ar y gweill ar ein calendr digwyddiadau ac ar wefan Dig Ventures, arweinydd y prosiect. Os na allwch chi aros tan hynny, fydd Gwastadeddau Byw yn cynnal Diwrnod Hanes ar 28 Medi yn Nhŷ Tredegar. Bydd yno stondinau a gweithgareddau addas ar gyfer pobl sydd wedi gwirioni â Hanes a theuluoedd ifanc. Cadwch lygad am weithgareddau sydd ar y gweill ar draws y Gwastadeddau Byw. Os ydych eisiau cyfrannu mwy, mae gennym lawer o gyfleoedd ar gael i wirfoddoli, felly cysylltwch â Swyddog Gwirfoddoli Gwastadeddau Byw ar Beccy.williams@rspb.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Mae gwefan GIS yn dal i gael ei datblygu ar hyn o bryd, ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'w llenwi.  Fodd bynnag am y tro, edrychwch ar ein map digidol o Wastadeddau Gwent yma. Mae’n rhoi darlun i chi o’r canfyddiadau archeolegol, y digwyddiadau hanesyddol a’r bywyd gwyllt amrywiol y gellir eu canfod ar Wastadeddau Gwent.

 

BioBlitz y Lefelau

Mae arolygu bywyd gwyllt yn hanfodol os ydym am wella ein dealltwriaeth o gyflwr natur. Mae'r wybodaeth a gesglir yn ystod arolygon yn ddefnyddiol iawn oherwydd gall ddatgelu sut y gall niferoedd a dosbarthiad bywyd gwyllt newid mewn ymateb i newid hinsawdd a cholli cynefinoedd.

Un ffordd effeithiol o gasglu gwybodaeth fel hyn yw BioBlitz. Mae BioBlitz yn sesiwn i gofnodi cymaint o fywyd gwyllt â phosib o fewn diwrnod mewn un safle. Mae'n ffordd wych o gael darlun cliriach o sut mae natur yn ffynnu ar Lefelau Gwent, a dros y chwe mis diwethaf rydym wedi cynnal pedwar digwyddiad yng nghanolfannau ymwelwyr Lefelau Byw, gan ddechrau yng Nghastell Cil-y-coed a Chors Magwyr ym mis Mai, a Llyn Hendre a Thŷ Tredegar ym mis Mehefin. Er gwaethaf rhai amodau gwlyb iawn, a rhai heulog iawn hefyd, mynychodd dros 250 o bobl o bob oed, gallu a chefndir i wneud y digwyddiadau yn llwyddiannus.

Cofnodwyd cyfanswm o dros 800 o rywogaethau, ac roedd yn wych gweld diddordeb mor gymysg ac amrywiol ar draws y gwahanol safleoedd. Roedd gan BioBlitz Llyn Hendre rai uchafbwyntiau go iawn gyda chwilen filwr â’r gardwenyn fain wedi'u recordio, taflodd recordiad cyntaf i Gymru hefyd - Nysius huttoni, pryfyn daear sy’n endemig i Seland Newydd sy'n lledaenu'n gyflym ledled Prydain. Gwelsom hefyd recordiadau o rywogaethau ymledol fel cregyn gleision sebra â’r minc. Mae'r Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Lefelau Byw yn gweithio i fapio a deall risg rhywogaethau goresgynnol ar draws y Lefelau. Bydd y data gwerthfawr hwn yn ein helpu i adeiladu gwell darlun o gyflwr ein bywyd gwyllt ar y Lefelau.

Diolch i'r holl gyfranogwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid am gymryd rhan yn ein digwyddiadau gwyddoniaeth dinasyddion. Byddwn yn cynnig mwy o sesiynau BioBlitz y flwyddyn nesaf yn ein hybiau ymwelwyr Lefelau Byw a fydd ar agor i deuluoedd, naturiaethwyr amatur a gweithwyr proffesiynol, felly cadwch lygad am galendr digwyddiadau'r flwyddyn nesaf a chofrestrwch i'n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf.