Rydym yn wir obeithio y daw’r lluoedd wrth i’r cyflwynydd teledu a’r naturiaethwr Chris Packham ddod i Warchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd, fel rhan o’i Bioblitz ledled y DU - ymgyrch ‘Dydy gwarchodfeydd natur ddim yn ddigon!’ i helpu i ddarganfod pa blanhigion ac anifeiliaid rhyfeddol sy’n byw yn y man arbennig hwn ar Wastadeddau Gwent. Yn ystod y dydd, cynhelir llawer o weithgareddau i helpu i ddarganfod a chofnodi pa rywogaethau sydd yma yn ein pyllau, dolydd, coedlannau a gwrychoedd. Bydd gwobr hefyd am ddarganfyddiad mwyaf nodedig ac annisgwyl y dydd, felly cofiwch ddod â’ch ysbienddrych a’ch chwyddwydr am ddiwrnod llawn hwyl. Felly, os ydych yn ddechreuwyr neu’n arbenigwr, ymunwch â ni ar ein hantur, gyda sesiynau a arweinir drwy’r dydd i chi ymuno â nhw a mynd yn Wyllt! Bydd Chris yn galw heibio i weld sut hwyl ydyn ni’n ei gael.
Man cyfarfod: Gwlyptir Casnewydd, Heol Orllewinol Trefonnen, Trefonnen Casnewydd NP18 2BZ Cost: AM DDIM Sylwer bod angen tâl parcio ceir yn y lleoliad hwn.
Cysylltu ag archebu: Helen.Gottschalk@rspb.org.uk